Yr Wythnos Gyda Rob

17 Tachwedd 2023

Annwyl gydweithwyr,

Hoffwn ddechrau fy neges yr wythnos hon gyda'r cyhoeddiad bod ein hymgyrch Achos Siôn Corn hynod werth chweil wedi dychwelyd ar gyfer 2023.  

Santa's Cause 900 x 1600

Mae realiti garw bywyd mewn llawer o'n cymunedau yn golygu bod mwy o blant nag erioed eleni yn wynebu'r posibilrwydd o gael ychydig neu ddim byd i’w agor Ddydd Nadolig. Gall hyn fod yn dorcalonnus iddyn nhw a'u teuluoedd.

Mae ein tîm Gwasanaethau Cymdeithasol yn amcangyfrif bod cynifer â 1500 o blant y maen nhw'n eu cefnogi yn debygol o fod heb unrhyw beth yn eu disgwyl Ddydd Nadolig oni bai ein bod yn gallu gwneud rhywbeth i helpu.

Y llynedd, diolch i gefnogaeth anhygoel ein staff, grwpiau cymunedol lleol a busnesau yn y Fro, darparodd ein hymgyrch fwy na 1000 o roddion.  Dros y misoedd diwethaf mae tîm prosiect Achos Siôn Corn wedi gwneud llawer o waith i'n galluogi i fod yn fwy ac yn well ar gyfer 2023 a helpu hyd yn oed mwy o blant a phobl ifanc. 

Dwedodd ein rheolwr Dechrau'n Deg, Kath Clarke, wrthyf yn gynharach yr wythnos hon fod dagrau o lawenydd ar wynebau rhieni wrth iddynt ddosbarthu'r anrhegion a roddwyd gan staff y llynedd. Yn ogystal â'r rhyddhad uniongyrchol o straen a phryder a ddaw yn sgil y rhoddion rwy'n credu hefyd bod hon yn ystum hynod bwysig i rai o deuluoedd mwyaf agored i niwed y Fro ein bod yma i'w cefnogi. 

Er mwyn gwneud casglu rhoddion gan staff a phreswylwyr hyd yn oed yn haws eleni, mae ein tîm Cyllid wedi sefydlu opsiwn rhoi arian ar-lein a fydd yn lansio cyn bo hir.  Unwaith eto mae tîm Achos Siôn Corn wedi negodi gostyngiad sylweddol iawn gyda The Entertainer er mwyn ein galluogi i ymestyn y cyfraniadau ariannol hyn hyd yn oed ymhellach.  Mae croeso mawr i roddion anrhegion hefyd ac mae'r tîm wedi gwneud rhai awgrymiadau ar gyfer teganau ac anrhegion eraill a fyddai'n briodol. 

Rwy'n gwybod bod llawer o gydweithwyr hefyd yn teimlo effaith yr argyfwng costau byw gymaint ag y mae ein trigolion.  Does dim disgwyliad i staff roi rhodd o gwbl. Ond bydd unrhyw gyfraniad y gallwch ei wneud yn helpu i roi Nadolig Llawen i blentyn ac yn lleddfu'r pwysau a'r pryder sydd ar nifer o deuluoedd yr adeg hon o'r flwyddyn.

Mae'r ymgyrch yn un o nifer o ffyrdd y mae ein Cyngor yn cefnogi’n trigolion bob blwyddyn. Gydol mis Rhagfyr byddwn hefyd yn dathlu, yn allanol ac yn fewnol, y gwahaniaeth y mae ein gwaith a'n gwasanaethau wedi'i wneud yn 2023. 

Mayor Christmas Card Competition

Mae gennym eisoes restr hir (iawn) o syniadau o'r gwaith a amlygwyd yn y diweddariadau wythnosol hyn ac mewn mannau eraill ond hoffwn daflu goleuni ar y prosiectau hynny a allai fod wedi mynd o dan y radar, a rhoi cydnabyddiaeth i'r unigolion hynny sy'n ei haeddu. Os ydych chi'n gwybod am rywbeth neu rywun rydych chi'n meddwl y dylen ni ei amlygu wrth gyfrif lawr i’r Nadolig yna rhowch wybod i mi, a byddwn yn gwneud ein gorau i gynnwys y syniadau a dda i law.

Mae'r Maer Julie Aviet yn chwilio am egin artist yn un o ysgolion cynradd y Fro i ddylunio ei Cherdyn Nadolig blynyddol.  Y thema ar gyfer eleni yw Caredigrwydd adeg y Nadolig.  Bydd y llun buddugol yn cael ei wneud yn e-gerdyn a bydd yn cael ei anfon at grwpiau cymunedol, arweinwyr dinesig, ac aelodau o'r cyngor. Mae'r gystadleuaeth ar agor nawr. 

Mae’n Wythnos Diogelu Genedlaethol yr wythnos hon. Ddydd Llun lansiodd Lance Carver, ein Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol sydd hefyd yn Gadeirydd Bwrdd Diogelu Caerdydd a'r Fro, y Fframwaith Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu Safonau Diogelu Cenedlaethol.

Lansiwyd un set o weithdrefnau diogelu ar gyfer Cymru yn 2019.  Roedd hwn yn gam mawr ymlaen ar gyfer diogelu ond dim ond un o nifer sydd eu hangen i wella arfer. Fel gweision cyhoeddus mae cyfrifoldeb diogelu gan bob un ohonom ac os ydym am ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw, mae angen i sefydliadau fel y Cyngor wneud mwy i hyfforddi a datblygu ein gweithlu. Mae'r fframwaith yn rhoi i ni a sefydliadau tebyg i ni fframwaith lle gall pawb ddarparu hyfforddiant sy'n cefnogi ymarfer cyson ac o ansawdd uchel ledled Cymru.

National Safeguarding week 2023

Thema ehangach Wythnos Genedlaethol Diogelu eleni yw camfanteisio. Bydd llawer o gydweithwyr ym maes Dysgu a Sgiliau a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi bod yn rhan o sesiynau gydol yr wythnos a arweiniodd heddiw at gynhadledd Bwrdd Diogelu Caerdydd a'r Fro. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gwneud amser i gefnogi'r wythnos.  Cyfrifoldeb pawb yw diogelu ac i'r rhai nad ydynt wedi cymryd rhan, cymerwch amser i ddarllen sut y gallwch fod yn fwy gwyliadwrus a helpu i amddiffyn plant a phobl ifanc sy'n agored i niwed.

Cymru can

Roedd y Fro yng nghanol lansiad ymgyrch genedlaethol arall yr wythnos hon.  Cafodd prosiect Adfer y Ddawan sydd wedi'i leoli ym Mharc Gwledig Porthceri ei gynnwys fel astudiaeth achos mewn arfer gorau fel rhan o ymgyrch Cymru Can yr wythnos hon. Cymru Can yw'r strategaeth newydd gan Gomisiynydd Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, Derek Walker.  Mae'n wych gweld y prosiect yn cael ei gydnabod fel un o'r goreuon yng Nghymru.  Hoffwn ddiolch yn arbennig i Mel Stewart a Jake Briscombe am y rôl y maent wedi'i chwarae yn ffilm lansio Cymru Can a bod yn wynebau i’r Fro ar y llwyfan cenedlaethol. Diolch yn fawr iawn i'r holl gydweithwyr eraill sy'n rhan o'r lansiad a'r prosiect ehangach.

Rwy'n gwybod fy mod yn siarad llawer am ffyrdd newydd o weithio yn y negeseuon hyn ac rwy'n ymddiheuro'n ddiffuant i'r cydweithwyr hynny sy'n fy nghlywed yn siarad am y peth yn amlach nag yr hoffent!   Ond os ydym am ymateb i'r heriau sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd fel sefydliad a'r rhai sy'n wynebu ein cymunedau, rhaid i ni barhau i feddwl a gweithio'n wahanol. Mae gwaith fel yr hyn sy'n cael ei wneud yn ein parciau gwledig yn enghraifft berffaith o sut mae gweithio'n wahanol yn ein galluogi i gael effaith ar faterion mawr fel yr argyfyngau hinsawdd a natur. Mae yna brosiectau fel Adfer y Ddawan ledled y Cyngor a'r hyn fydd yn hanfodol er mwyn i ni wynebu'r heriau sydd o'n blaenau yw gwella fel sefydliad wrth rannu sut rydym yn gwella'r hyn a wnawn.

The learning cafe

I helpu gyda hyn fe ail-lansiodd y Caffi Dysgu Ddydd Llun. Ymunodd bron i 80 o bobl â sesiwn gyntaf y Caffi.  Nodwyd wyth thema:

  • Creadigrwydd ac Arloesi  
  • Pŵer Cymunedol  
  • Prosiect Sero  
  • Arwain a Rheoli  
  • Lles 
  • Prosiect / Trawsnewid / Newid  
  • Datblygiad Personol  
  • Digidol  

Bydd y rhain nawr yn cael eu harchwilio gan aelodau’r Caffi Dysgu. Diolch i bawb a ymunodd â'r sesiwn ac a gyfrannodd at y grwpiau bach. Mae cyfle o hyd i gydweithwyr gymryd rhan, cysylltwch â'n tîm DS a Dysgu. Nid yw'r ffaith eich bod wedi colli'r sesiwn gyntaf yn rheswm dros beidio cymryd rhan.

Gan ddilyn ar hyn, fore Mawrth cynhaliwyd sesiwn arbennig o’r UDA lle ymunodd cydweithwyr â ni a oedd wedi cymryd rhan yn ddiweddar mewn rhaglenni hyfforddi, datblygu a mentora a gynigir gan SOLACE, New Local, ac Infuse.

White Ribbon Day

Clywsom sylwadau gan gydweithwyr ac adborth gan y rhai a gymerodd ran ar ba mor werthfawr fu’r cyrsiau iddynt, sut maent wedi eu helpu yn eu rolau, ac yn hollbwysig sut maen nhw wedi gallu rhannu eu dysgu. Roedd rhai enghreifftiau gwych o sut roedd cydweithwyr wedi dod ag arfer gorau o fannau eraill yn ôl i'n timau ac yn yr un modd sut mae ein gwaith ni yn sbarduno gwelliannau mewn mannau eraill. Mae ein tîm DS a Dysgu nawr yn edrych ar sut y gallwn wella wrth rannu hyn ar draws y sefydliad.

Rwyf am gau'r neges hon drwy edrych ymlaen at yr wythnos nesaf. Bydd hi’n Ddiwrnod y Rhuban Gwyn ar 25 o Dachwedd sef Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod. Ddydd Gwener bydd ein tîm Diogelwch Cymunedol yn cynnal stondin yn y swyddfeydd Dinesig rhwng 10am a 3pm.  Bydd neges yn mynd allan i'r holl staff Ddydd Llun gyda gwybodaeth am sut y gallwch chi ddangos eich cefnogaeth. Diolch o flaen llaw i bawb sy'n gallu ymuno â ni.  

Diolch i chi i gyd, fel bob amser, am eich gwaith yr wythnos hon.  Diolch yn fawr bawb.

Rob.