Dyw hi ddim yn rhy hwyr i gofrestru ar gyfer cwrs Cymraeg!

Work Welsh logo

Rydyn ni’n falch o fod yn rhan o'r cynllun Cymraeg Gwaith. Mae cyrsiau Cymraeg ar gael yn rhad ac am ddim i staff ac aelodau etholedig y Fro. Ni fydd yn rhaid i chi ddefnyddio gwyliau blynyddol na'ch amser eich hun gan fod y cyrsiau’n cael eu hystyried fel amser gwaith, ond gwiriwch gyda'ch rheolwr cyn cofrestru.

I gael wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael a sut i gofrestru, ewch i'r dudalen Dysgu Cymraeg ar Staffnet.

Mae yna hefyd amrywiaeth o opsiynau dysgu ar gael i bawb ar bob lefel o Gymraeg, o wersi dwys dan arweiniad tiwtor i gyrsiau hunanastudio byr. Gallwch weld yr holl gyrsiau sydd ar gael, o gyrsiau blasu byr i gyrsiau sector-benodol, ar-lein yn Gwasanaethau Cymraeg Gwaith | Dysgu Cymraeg.

Os na allwch ddod o hyd i gwrs sy'n addas i chi neu os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r cydlynydd Cymraeg Gwaith a'r tiwtor Cymraeg, Sarian Thomas-Jones, neu’r Swyddog Cydraddoldeb a’r Gymraeg, Elyn Hannah.