Diwrnod Gwelededd Deurywiol 2023
Ddydd Sadwrn 23 Medi 2023, rydym yn nodi 25 Mlynedd o sefydlu Diwrnod Gwelededd Deurywiol, diwrnod sy'n dathlu a chodi ymwybyddiaeth am y gymuned ddeurywiol.
Mae'r diwrnod hwn yn ein hatgoffa bod deurywioldeb yn ddilys, yn real ac yn haeddu cydnabyddiaeth. Mae'n gyfle i sefyll mewn undod â'n ffrindiau a'n teuluoedd deurywiol, gan sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gweld a'u clywed yn y gymuned ac yn bwysig yn y gweithle.
Mae GLAM wedi llunio dogfen wybodaeth ar ddeurywioldeb, gan ddarparu gwybodaeth am beth yw deurywioldeb a sut rydym yn dod yn gynghreiriaid i'n ffrindiau, cydweithwyr ac anwyliaid deurywiol, yn ogystal â dolenni i ddogfennau gwybodaeth ddefnyddiol.
Cysylltwch â GLAM os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch ynghylch deurywioldeb neu unrhyw fater LHDTC+ arall.
Mae'r Cyngor yn gweithio'n galed iawn i sicrhau ein bod yn cynnig lle diogel a dymunol i bobl LHDTC+ weithio ac i sicrhau bod Bro Morgannwg yn amgylchedd cadarnhaol a meithringar. Os hoffech chi gymryd rhan yn hyn, neu os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau ar sut i wneud pethau'n well, cysylltwch â GLAM, ein Rhwydwaith Staff LHDTC+.
Os ydych chi’n pryderu am wahaniaethu neu aflonyddu, neu os ydych chi am gael rhagor o wybodaeth am sut i adrodd am hyn, gweler polisi cwynion. Cyngor Bro Morgannwg.