Wythnos Cydraddoldeb Hiliol 2024: Diwrnod 2 - Gwahanol Ddiwylliannau

3.REW24Logo.jpgSut gallwn ni wybod neu ddeall pethau pan nad ydym erioed wedi gweld, clywed na darllen amdanyn nhw?

Agoriad llygad heddiw mewn - 30 eiliad

Pa mor aml ydych chi'n darllen llyfrau, gwrando ar gerddoriaeth neu bodlediadau neu wylio ffilmiau sy'n eich amlygu i wahanol safbwyntiau a diwylliannau?

  • Byth

  • Yn anaml 

  • Yn achlysurol

  • Yn aml

  • Bob amser

Yn y DU, dim ond 1% o'r ymgeiswyr ar gyfer TGAU Llenyddiaeth Saesneg yn 2019 atebodd gwestiwn ar nofel gan awdur o liw (Penguin Random House, 2020). Mae'r ystadegyn hwn ei hun yn dangos nad ydym yn agored i ddiwylliannau gwahanol yn ein haddysg gynnar hyd yn oed, felly nid yw'n syndod ein bod yn parhau i wneud hyn yn ein bywyd fel oedolyn. Fodd bynnag, pan fyddwn yn amlygu ein hunain i lyfrau, cerddoriaeth, a ffilmiau ac ati, sydd â gwahanol safbwyntiau a diwylliannau, mae'n ein helpu i ymgyfarwyddo â gwahaniaethau a phrofiadau pobl a gall hynny droi beirniadaeth yn ddealltwriaeth.

“Mae cymaint o bobl yn rhannu eu straeon ac yn cysylltu â phobl o bob cwr o'r byd. Felly, dechreuwch ddarllen blogiau, trydariadau, erthyglau newyddion a straeon i allu dal i fyny.” -  Franchesca Ramsey, 5 Tips for being an Ally.

Dyma rai enghreifftiau o fanteision amlygu eich hun i wahanol safbwyntiau:

  • Rydych chi'n dechrau dathlu'r gwahaniaethau hynny yn hytrach na'u beirniadu.
  • Mae'n annog trafodaethau am ddiwylliannau a safbwyntiau pobl sy'n wahanol i'ch rhai chi.
  • Mae'n eich helpu i ddeall y rhwystrau a'r heriau y mae pobl yn eu hwynebu’n naturiol oherwydd eu gwahaniaethau. Mae'n helpu i chwalu’r ystrydebau.
  • Byddwch chi’n dysgu parchu gwahaniaethau a diwylliannau pobl.

Ni ddylem barhau i ofyn i'r rhai sydd â phrofiad byw ein haddysgu pan fo digon o adnoddau ar gael, gan gynnwys Google, i wneud ein hymchwil ein hunain.

  • Fideo - 3 Munud

    Sut mae ein gwahaniaethau yn dangos ein tebygrwyddau hefyd?

     

    Gwyliwch y fideo hwn i gael gwybod mwy:

     

    Don't Put People in Boxes

     

    Mae'r fideo hwn yn dangos, er y gall llawer ohonom ymddangos yn wahanol ar y dechrau, y gallai fod gennym fwy yn gyffredin nag yr oeddem yn ei ddisgwyl. Rydym yn sylweddoli hyn pan fyddwn yn dysgu ychydig mwy am ein gilydd.

  • Cam gweithredu – 2.5 Funud

    Mae amlygu ein hunain i wahanol safbwyntiau yn ein cyflwyno i bethau a phrofiadau newydd sy'n cyfoethogi ein bywydau.

     

    Ceisiwch wylio neu ddarllen am le neu gymeriad sy'n wahanol i chi. Gall hyn fod ar Netflix, Apple, Disney, neu eich siop lyfrau/llyfrgell leol. Mae amrywiaeth ar Audible hefyd a byddwch yn dod o hyd i lawer o bobl o wahanol gymunedau yn postio ar gyfryngau cymdeithasol.

     

    Rhowch gynnig arni unwaith, ni wyddoch chi byth pa lawenydd newydd y byddwch chi'n dod ar ei draws.

     

    Beth allech chi ei wneud i amlygu eich hun i wahanol safbwyntiau a diwylliannau? Syniadau:

    • Darllen llyfr o'r rhestr o'r llyfrau mwyaf poblogaidd o ddiwylliannau eraill
    • Gwylio ffilm o'r rhestr o'r ffilmiau gorau am wahanol ddiwylliannau a chenhedloedd
    • Os oes gennych blant, anogwch nhw i ddarllen llyfrau a gwylio ffilmiau sy'n seiliedig ar wahanol safbwyntiau a diwylliannau. Ni allwn ddechrau yn rhy ifanc.
    • Gofyn i gydweithiwr o gefndir ethnig amrywiol argymell llyfr neu ffilm i chi sy'n seiliedig ar ei dreftadaeth neu iaith

 

Dyma un cam y gallwch ei gymryd fel uwch arweinydd:

Arwain trwy esiampl. Gwylio ffilm neu gyfres o'n rhestr argymhellion uchod a'i thrafod gyda'ch cydweithwyr/tîm/adran. Annog eich cydweithwyr/tîm/adran i wneud yr un peth.

 

Adnoddau Ychwanegol

 

Adnoddau Cydraddoldeb Hiliol