Diwrnod Cenedlaethol Dod Allan
Mae 11 Hydref 2024 yn Ddiwrnod Cenedlaethol Dod Allan - diwrnod o rymuso, dewrder a dilysrwydd

Mae'r diwrnod yn ein hatgoffa o bwysigrwydd creu gweithle lle gall pawb fod yn agored ac yn falch o’r bobl ydyn nhw.
I'r rhai yn y gymuned LHDTC+ gall dod allan fod yn daith hynod bersonol, a heriol weithiau. Mae Diwrnod Cenedlaethol Dod Allan yn llwyfan cefnogol i unigolion rannu eu straeon, profiadau, a dod o hyd i nerth yn y gymuned a'i chynghreiriaid.
Mae'n ddiwrnod i ddathlu gwytnwch a dewrder y rhai sydd wedi dod allan, yn ogystal â dangos cefnogaeth ddiwyro i'r rhai a allai fod ar eu taith o hyd. Fel rhwydwaith LHDTC+ mae GLAM yma i gefnogi unrhyw unigolyn ar y daith hon, cysylltwch â ni os am wybodaeth neu gefnogaeth.
Mae croeso i chi gysylltu â ni yn GLAM@valeofglamorgan.gov.uk
Mae dogfennau cymorth gwych ar gael hefyd trwy Stonewall i gefnogi unigolion LHDTC+ yn ogystal â theuluoedd.
Stonewall – National Coming Out Day
Coming out | LGBT HERO - the national health and wellbeing charity
