Staffnet+ >
Mis Derbyn Awtistiaeth: Deall a Chofleidio Niwroamrywiaeth
Mis Derbyn Awtistiaeth: Deall a Chofleidio Niwroamrywiaeth
08 Ebrill 2025
Ebrill yw Mis Derbyn Awtistiaeth— ac mae'n amser i ddathlu cyfraniadau unigryw pobl awtistig.
Mae awtistiaeth yn niwrowahaniaeth gydol oes ac yn anabledd sy'n effeithio ar sut mae pobl yn profi ac yn rhyngweithio â'r byd o'u cwmpas.
Mae pob person awtistig yn wahanol, ond mae llawer yn rhannu nodweddion cyffredin hefyd.
Mae awtistiaeth yn effeithio ar o leiaf 700,000 o bobl yn y DU yn unig, ac mae'n hanfodol cydnabod hefyd y gall unigolion o gymunedau ymylol wynebu rhwystrau ychwanegol wrth gael mynediad at gymorth neu ddiagnosis.
Mae'r mis hwn yn ymwneud â dathlu'r cyfoeth niwroamrywiaeth, parhau i eirioli dros fannau cynhwysol ac i barhau i gefnogi pawb yn ein cymunedau.
Ydych chi wedi clywed am rwydwaith Abl?
Abl yw rhwydwaith anabledd Cyngor Bro Morgannwg — a'i nod yw hyrwyddo staff ag anableddau, darparu gwybodaeth a chymorth ac yn codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth i helpu i wella profiadau a pherthnasoedd.
Mae Abl hefyd yn gweithio gyda'r rhwydweithiau staff eraill i hyrwyddo cynhwysiant, hygyrchedd ac ymwybyddiaeth ledled Bro Morgannwg.
Dewch i Gwrdd Eich Cyd-Gadeiryddion Abl
Kat Knibbs
“Helo, fy enw i yw Kat, rwy'n swyddog Cynhwysiant ar gyfer Dechrau'n Deg ac yn cefnogi teuluoedd gyda phlant ag anghenion ychwanegol. Rwy'n niwroamrywiol, a thrwy fy swydd rwyf wedi gallu rhoi pethau ar waith i gefnogi fy anghenion yn ogystal â chefnogi'r rhai o'm cwmpas.
“Rwyf wedi bod yn ffodus iawn fy mod i wedi cael cefnogaeth dda gan fy rheolwr llinell ac wedi cael llawer o ddrysau wedi agor i mi am gefnogaeth drwy hyn. O ganlyniad, rwy'n caru fy swydd, ie mae yna heriau rwy'n eu hwynebu o hyd bob dydd, ond mae cael yr offer i'm cefnogi yn gwneud y gwahaniaeth.
“Trwy ABL hoffwn dyfu rhwydwaith o gefnogaeth - gall bod yn niwroamrywiol deimlo'n ynysig ar adegau - ond rwy'n gobeithio drwy'r rhwydwaith hwn y gallwn gefnogi ein gilydd, rhannu ein gwybodaeth, a chreu lle diogel i unigolion estyn allan am y gefnogaeth sydd ei angen arnynt mewn gwirionedd.”
Phil Gauci
“Helo, Phil ydw i ac yn Swyddog Cymorth Llyfrgell Peripatetig, sy'n darparu cefnogaeth i dri o'n Llyfrgelloedd Cymunedol sy'n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr. Dim ond yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf cefais ddiagnosis hwyr o awtistiaeth, a phe bawn i wedi derbyn hyn yn llawer cynharach, ac roedd addasiadau rhesymol ar waith, gallai fy llwybr gyrfa fod wedi bod yn wahanol iawn. Yn yr un modd, gallai fy mhrofiad o weithio i'r Fro fod wedi bod yn un mwy cadarnhaol.
“Ond er hynny, ers datgelu fy diagnosis, mae fy rheolwyr llinell a'm cydweithwyr wedi bod yn gefnogol iawn, felly rwyf nawr yn awyddus i adeiladu ar y gefnogaeth honno trwy helpu i adeiladu rhwydwaith Abl gyda'r nod o greu amgylchedd o gefnogaeth i bawb sy'n nodi fel rhai sy'n anabl yn gorfforol neu'n rhan o'r gymuned niwro-wahaniaethol.”
Sut alla i gymryd rhan?
Mae Abl yn croesawu aelodaeth gan staff ag anableddau neu gyflyrau iechyd, yn ogystal â staff sy'n rhoi cyngor neu gymorth i bobl ag anableddau a staff sy'n dymuno ymuno fel cynghreiriaid.
Am ragor o wybodaeth, neu os oes gennych ddiddordeb i ymuno â rhwydwaith Abl — cliciwch yma.
Cyfarfod Nesaf Abl — Dydd Llun 28 Ebrill am 4yp, Ystafell y Barri (Ail Llawr) Swyddfeydd Dinesig yn y Barri
Cysylltwch â ni: abl@valeofglamorgan.gov.uk