Cyngor i roi'r gorau i ddefnyddio platfform X

10 Ebrill 2025

Ni fydd y Cyngor bellach yn defnyddio X, a elwid gynt yn Twitter, fel sianel ar gyfer cyfleu gwybodaeth am ei waith a'i wasanaethau. I ni fel Cyngor mae hwn yn benderfyniad sy'n cael ei ysgogi gan ein gwerthoedd.Civic Offices

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae'r platfform X wedi dod yn lle anodd i ni ymgysylltu â thrigolion.

Mae lefelau cynyddol o gamwybodaeth a'r amlygrwydd y mae'r platfform yn ei roi i safbwyntiau eithafol yn ei gwneud hi'n anodd inni rannu gwybodaeth am ein gwasanaethau a newyddion am ein gwaith.

Rydym wedi amlinellu ein huchelgais o wneud y Fro yn Sir Noddfa. Un sydd nid yn unig yn groesawgar ond sy'n herio gwahaniaethu a chanfyddiadau negyddol yn weithredol.

Gyda hyn mewn golwg nid yw X bellach yn teimlo fel platfform y dylem fod yn ei ddefnyddio i bobl ymgysylltu â ni.

Mae hwn hefyd yn benderfyniad ynglŷn â gwneud y defnydd gorau o'n hadnoddau.

Mae newidiadau diweddar i X wedi ei gwneud hi'n anoddach ymgysylltu â thrigolion ynglŷn â'n gwaith. Mae hyn oherwydd niferoedd cynyddol o gyfrifon anactif, yn ogystal â newidiadau i'r algorithm sy'n gyrru'r cynnwys ym mhorthwyr defnyddwyr.

Er gwaethaf cael 29,000 o ddilynwyr ar y platfform, mae llawer o'r cyfrifon hyn bellach yn anweithgar. O ganlyniad rydym wedi gweld y lefelau ymgysylltu â'r cynnwys rydym yn ei rannu ar y platfform yn dirywio'n gyson. Mae nifer yr argraffiadau a gyflawnwyd drwy'r platfform bellach yn llai na 10% o'r rhai a gyflawnwyd ddwy flynedd yn ôl.

Rydym eisoes yn chwilio am ffyrdd newydd o ymgysylltu â'n trigolion a'n rhanddeiliaid eraill ar-lein. Ym mis Tachwedd lansiwyd ein sianel Instagram ac rydym yn ymdrechu'n gyson i roi cymaint o gyfleoedd â phosibl i ni ein hunain i ddweud wrth bobl am ein gwaith.