Hyrwyddo cyfleoedd gwaith yn Ffair Swyddi Cyngor Bro Morgannwg

Cymerwch ran yn Ffair Swyddi Cyngor Bro Morgannwg ddydd Mercher, 21 Mai 2025, rhwng 10y.b a 1y.p yn The POD ar Broad Street yn y Barri.

Mae hwn yn gyfle gwych i adrannau'r cyngor gysylltu'n uniongyrchol â cheiswyr gwaith o bob rhan o'r Fro a'r ardaloedd cyfagos. 

Beth i'w ddisgwyl yn y Ffair Swyddi:

  • Hyrwyddo eich swyddi gwag presennol a'ch cyfleoedd sydd ar ddod
  • Cwrdd â darpar ymgeiswyr wyneb yn wyneb
  • Ateb cwestiynau a rhannu mewnwelediadau am weithio o fewn eich tîm

Bydd awr olaf y digwyddiad, o 12y.p tan 1y.p, yn awr dawel ddynodedig i gefnogi unigolion a allai elwa o amgylchedd tawelach.

Cofrestrwch i arddangos yr ystod eang o yrfaoedd a chyfleoedd sydd ar gael o fewn y Cyngor a hyrwyddo'r Cyngor fel lle bywiog ac amrywiol i weithio.

Os hoffech chi fynychu, sicrhewch eich lle drwy lenwi'r ffurflen archebu yma.