Y Cyngor yn Talu Teyrnged i Shirley Curnick

Mae cydweithwyr wedi talu teyrnged yn dilyn marwolaeth Shirley Curnick

ShirleyCurnickDechreuodd Shirley ei thaith gyda Chyngor Sir De Morgannwg ym 1979 gan weithio fel Cynorthwyydd Cegin yn Ysgol Gynradd Palmerston ac yn 1996 trosglwyddodd i weithio i Gyngor Bro Morgannwg fel rhan o ad-drefnu llywodraeth leol.

Dros y blynyddoedd, bu Shirley yn gweithio mewn amrywiaeth o ysgolion cyn dod yn Brif Cogydd yn Ysgol Maes Dyfan yn y Barri, lle ymroddodd 21 mlynedd o wasanaeth cyn dychwelyd i'r lle dechreuodd y cyfan yn Ysgol Gynradd Palmerston fel Cynorthwyydd Cegin yn 2014.

Yn 2019, cydnabuwyd gyrfa anhygoel Shirley gan Gymdeithas Arlwyo Awdurdodau Lleol gyda Gwobr Seren Disglair am ei hymrwymiad diflino a'i gofal am y disgyblion a fwydodd dros ei yrfa.

Roedd Shirley yn filch o allu adnabod pob disgybl yn ôl enw, eu hoffterau ac anghenion dietegol, a chymerodd ran yn rheolaidd mewn gweithgareddau eraill yn yr ysgol - gan gynnwys taith i wylio'r Lion King yn Llundain.

Shirley 2Cafodd Shirley ganmoliaeth hefyd am ei gwaith yn ystod yr her genedlaethol 'Bwytwch Nhw i Drechu Nhw' gyda'r Cwmni Arlwyo Big Fresh.

Roedd yr her yn gweld timau arlwyo ysgolion o bob cwr o'r wlad yn creu detholiad o brydau yn ystod y gystadleuaeth, gan sicrhau mai llysiau oedd 'arwr' pob pryd.

Gyda 46 mlynedd trawiadol o wasanaeth yng Nghyngor Bro Morgannwg a Chwmni Arlwyo Big Fresh, roedd Shirley yn gydweithiwr annwyl a bydd colled fawr amdan.