Yr Wythnos gyda Rob
22 Awst 2025
Helo bawb,
Roeddwn i eisiau manteisio ar y cyfle i ddechrau neges yr wythnos hon gyda diweddariad arall ar y defnydd o'r Holiday Inn Express yn y Rhws fel llety dros dro ar gyfer Personau Hawl (EPs) o Afghanistan.
Fel y soniwyd yn y diweddariadau blaenorol, roedd cynlluniau am brotest ac wedi hynny, cafodd ei chynnal ddydd Llun y tu allan i'r Swyddfeydd Dinesig, a drefnwyd gan bobl sy'n gwrthwynebu defnydd y Weinyddiaeth Amddiffyn o'r gwesty. Roedd grŵp o wrthbrotestwyr hefyd yn bresennol ar yr un pryd i fynegi eu cefnogaeth i'r cynllun.
Parhaodd y brotest a'r gwrth-brotest yn heddychlon am y cyfnod, a hoffwn fynegi fy niolch diffuant i bawb am eu gwaith caled a'u gwaith cynllunio i sicrhau bod y mesurau priodol ar waith i ganiatáu i'r brotest ddigwydd yn ogystal â sicrhau diogelwch ein staff drwy gydol y prynhawn.
Yn anffodus, oherwydd camwybodaeth barhaus a dryswch ynghylch cynllun y Weinyddiaeth Amddiffyn, rydym wedi cael gwybod bod rhagor o brotestiadau ar y gweill yn yr wythnosau nesaf. Byddwn wrth gwrs yn parhau i fonitro'r sefyllfa, ac rydym yn parhau i fod mewn cysylltiad rheolaidd â'r Heddlu.
Byddwn hefyd yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi gydag unrhyw ddatblygiadau pellach wrth iddynt ddigwydd.
Mewn newyddion eraill, derbyniodd dysgwyr ledled y Fro eu canlyniadau TGAU yr wythnos hon, yn dilyn misoedd o waith caled a pharatoi.
Llwyddodd dros 28 y cant o'r ymgeiswyr i ennill gradd TGAU A neu A*, gyda 71.4 y cant yn ennill graddau A* i C a derbyniodd 97.6 y cant o'r dysgwyr raddau A* i G.
Mae'r rhain yn ganlyniadau gwych, a hoffwn ddiolch i athrawon a staff cymorth ysgolion am y gofal arbenigol, y gefnogaeth a'r arweiniad y maent wedi'u rhoi i'n pobl ifanc drwy gydol eu cyfnod mewn addysg uwchradd.
Rwy'n gobeithio y bydd pawb a dderbyniodd eu canlyniadau yr wythnos hon yn cymryd peth amser i fwynhau eu llwyddiant, ac yn teimlo'n hyderus wrth iddynt gymryd eu camau nesaf. Llongyfarchiadau a chi gyd!
O ddathlu llwyddiant arholiadau i ddathlu ein hamgylchedd nesaf wrth i grwpiau amgylcheddol cymunedol a lleol ddod at ei gilydd ddydd Iau ar gyfer Diwrnod Darganfod yr Afon Ffaw yn y Bont-faen.
Yn y digwyddiad ym Mharc Poplar gwelodd y mynychwyr yn mwynhau amrywiaeth o weithgareddau rhyngweithiol, o gyfleoedd i astudio infertebratau dŵr croyw dan ficrosgop i gelf a chrefft ar lan yr afon.
Mae Adfer Tirwedd yr Afon Ffaw yn brosiect uchelgeisiol sy'n cyflawni gwelliannau bioamrywiaeth yn yr Afon Ffaw ac o'i chwmpas.
Mae codi ymwybyddiaeth am ein hamgylchedd naturiol drwy ddigwyddiadau fel Diwrnod Darganfod yr Afon Ffaw yn cyd-fynd yn agos â'n gwaith parhaus Prosiect Sero yn enwedig yn dilyn ein datganiad o argyfwng natur yn 2021, ac mae hefyd yn un o'n pum amcan llesiant fel sefydliad, wrth i ni geisio parchu a dathlu'r amgylchedd.
Ar nodyn tebyg am lesiant, cydnabuwyd Cynllun Pas Aur y Fro yn ddiweddar gan sefydliad chwaraeon cenedlaethol gan ei fod yn cefnogi trigolion hŷn i ddod yn fwy egnïol.
Amlygodd Chwaraeon Cymru fod y cynllun yn arweinydd sector am gryfder ei ddull amlasiantaethol, partneriaethau strategol ac ymgysylltiad ystyrlon cymunedol sydd wedi helpu i lunio'r rhaglen.
Mae'r Pas Aur yn cynnig cyfle i drigolion y Fro dros 60 oed sy'n anweithgar ar hyn o bryd gael mynediad at wyth sesiwn gweithgaredd am ddim yn eu cymuned.
Nod y prosiect yw helpu cyfranogwyr i aros yn egnïol y tu hwnt i'r sesiynau am ddim cychwynnol, i gwrdd â phobl newyddion a theimlo'n fwy hyderus.
Un o'r rhai i elwa yw Sandra Goodchap, a ymunodd â chynllun y Pas Aur trwy ei champfa leol tra'n gwella o glun wedi torri. Chwaraeodd y sesiynau ran allweddol wrth gefnogi ei hadsefydlu.
Dywedodd Sandra: “Mae hyn yn hollol fendigedig, rwy'n gallu gwneud pob un o'r pethau roeddwn i eisiau eu gwneud eto ac mae wedi cryfhau fy nghorff.”
Mae Marlene Simmonds yn breswylydd arall sydd wedi elwa o'r cynllun, meddai: “Mae wedi fy helpu i gymaint mewn gwirionedd, rwy'n teimlo'n fwy hyderus ynof fy hun ac mae dod i'r gampfa hefyd wedi fy helpu gyda fy iechyd meddwl wrth i mi fyw ar fy mhen fy hun ac yn cael trafferth dod o hyd i rywle oedd yn addas i mi.
“Mae fy symudedd wedi cynyddu'n aruthrol - yn enwedig yn y gampfa - gan fy mod bellach yn gallu defnyddio cryn dipyn o'r offer heb gymorth.”
Mae llwyddiant cynllun y Pas Aur yn amlygu'r effaith bwerus y gall mentrau sy'n canolbwyntio ar y gymuned ei chael ar wella iechyd corfforol a lles emosiynol, ac mae hefyd yn rhannol diolch i'n gwaith partneriaeth wych gyda sefydliadau'r sector cyhoeddus a phreifat sy'n helpu i gyflwyno'r sesiynau gweithgaredd i drigolion yn eu cymunedau.
Da iawn i Tom Geere a'r Tîm Byw'n Iach am helpu i greu rhaglen wirioneddol gynhwysol a chefnogol sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau trigolion hŷn.
Yn olaf, gan fod llawer ohonoch yn dychwelyd o seibiant haeddiannol dros yr haf, hoffwn rannu nodyn atgoffa am y newidiadau diweddaraf i'n gwasanaethau post yn unol â Strategaeth Ddigidol y Cyngor a chyflwyno post hybrid.
Gyda chyfaint cyffredinol post y swyddfa yn parhau i ostwng, bydd y newidiadau hyn yn ein helpu i weithredu'n fwy effeithlon a chynaliadwy.
Ers dydd Llun 4 Awst 2025, mae post sy'n mynd allan bellach yn cael ei anfon dri diwrnod yr wythnos yn unig, ar ddydd Llun, Mercher a dydd Gwener.
Rhaid i bob eitem fod yn ystafell bost islawr y Swyddfeydd Dinesig (gyferbyn â’r lifftiau) erbyn 3.30yp ar y dyddiau hyn.
Os oes angen i chi anfon eitem frys ar ddydd Mawrth neu ddydd Iau, cysylltwch â'r tîm post erbyn 2.30yp yn postroom@valeofglamorgan.gov.uk. Mae hyn ar gyfer eitemau blaenoriaeth yn unig (Cofnodedig/Cyflenwi Arbennig).
Mae'r ystafell bost mewnol hefyd wedi symud o'r llawr 1af i'r islawr (gyferbyn â'r lifftiau). Dylid casglu'r holl bost yn awr o'r lleoliad hwn a'i ddanfon iddo.
Diolch i chi i gyd unwaith eto am eich cydweithrediad wrth gefnogi'r trawsnewidiad hwn. Gall newid y ffordd yr ydym yn gweithio gymryd peth amser i ddod i arfer ag ef, ond mae cofleidio ffyrdd newydd o wneud pethau yn ein galluogi i helpu a gwasanaethu ein trigolion yn fwy effeithlon.
Fel bob amser, diolch i chi am eich cyfraniadau yr wythnos hon - maent bob amser yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gennyf fi a gweddill y Tîm Arweinyddiaeth Strategol (SLT).
I'r rhai sydd ddim yn gweithio y penwythnos hwn, mwynhewch gwpl o ddiwrnodau ymlaciol.
Diolch,
Rob