Bro Oed Gyfeillgar yn Dathlu'r Tymor gyda Digwyddiad Nadoligaidd

Vale 50+ Forum EventDaeth Bro Oed Gyfeillgar hwyl yr wyl i'r Swyddfeydd Dinesig yr wythnos diwethaf ar gyfer ei digwyddiad Nadolig blynyddol ac roedd yn llwyddiant enfawr unwaith eto.

Daeth cydweithwyr, partneriaid, aelodau Fforwm 50+ y Fro, a'r cyhoedd i gyd at ei gilydd i fwynhau diodydd cynnes, mins peis a digon o hwyl a sbri.

I ychwanegu at y dathliadau, roedd gêm fywiog o Boccia gyda Sion Corn ei hun (neu fel ni’n ei adnabod, ein cydweithiwr Tom Greere!).

Roedd yn gyfle gwych i gysylltu a dathlu'r tymor.

Diolch i bawb a ymunodd a helpu i wneud y digwyddiad mor arbennig.