Oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu Cymraeg?
Rydym yn gyffrous i gynnig tri chwrs mynediad o fis Ionawr 2026!
Mae'r cyrsiau yn ddwy awr yr wythnos a byddant yn para tua chwe deg wythnos.
Nid oes unrhyw gost i ddysgwyr Cyngor Bro Morgannwg.
Mae dau gwrs ar Teams (dydd Llun a dydd Mercher) a dosbarth wyneb yn wyneb yn y Swyddfeydd Dinesig ddydd Gwener.
Cofrestrwch isod:
- Dydd Llun rhwng 1y.p - 3y.p ar Teams o 12/01/2026. I gofrestru, cliciwch yma.
- Dydd Mercher rhwng 4y.p - 6y.p ar Teams o 14/01/2026. I gofrestru, cliciwch yma.
- Dydd Gwener rhwng 9:30y.b - 11:30y.b wyneb-yn-wyneb yn y Swyddfeydd Dinesig o 16/01/2026. I gofrestru, cliciwch yma.