Staffnet+ >
Canfod Balchder - Byddardod a Phŵer Gwelededd
Canfod Balchder: Byddardod a Phŵer Gwelededd
14 Gorffennaf 2025
Bob mis Gorffennaf, mae Mis Balchder Anabledd yn cynnig cyfle am welededd - nid fel ysbrydoliaeth neu drasiedi, ond yn union fel bod dynol cyffredin.
I fi, mae balchder yn rhywbeth haenog. Rwy'n drwm fy nghlyw, ac yn byw yn y gofod rhwng hawlio fy hunaniaeth fyddar, ac eto yn cael fy ngweld ar yr arwyneb fel person sy'n clywed yn berffaith iawn. Dwi wedi treulio fy mywyd yn cydbwyso rhwng y bydoedd Byddar a'r bydoedd clyw, gan ddysgu addasu i'r ddau tra byth yn teimlo'n llawn wedi gwreiddio'n llwyr yn y naill na'r llall.
Cefais fy ngeni gyda chyflwr o'r enw Cytomegalovirus Cynhenid (CMV).
Mae CMV yn haint firaol sy'n digwydd pan fydd babi wedi'i heintio â'r cytomegalofirws cyn ei eni. Mae'n un o'r heintiau cynhenid mwyaf cyffredin mewn gwirionedd, ond nid yw llawer o bobl wedi clywed amdano. I rai babanod, nid yw CMV yn achosi unrhyw symptomau o gwbl - ond mewn eraill, fel fi, gall arwain at heriau iechyd hirdymor.
Yn fuan ar ôl cael fy ngeni, fe wnes i weathygu yn sydyn iawn oherwydd yr haint a arweiniodd at ddau waedlif yn yr ymennydd, ac achosodd niwed trychinebus i'm nerfau clywedol yn fy ymennydd. Heddiw rwy'n gwbl fyddar yn fy nghlust dde, gyda dim ond clyw rhannol yn fy nghlust chwith.
Ar yr wyneb, dwi wastad wedi bod yn hyderus ac yn sgwrsiol - y math o berson sy'n ffynnu ar sgwrs a chysylltiad. Cefais fy magu mewn teulu sy’n clywed heb unrhyw gysylltiadau â'r gymuned Fyddar, nid oedd gen i wahaniaethau lleferydd amlwg, a llywiais y byd clyw yn hyderus. Braidd yn eironig, ond yn fy mlynyddoedd cyn ymuno â'r Cyngor, gweithiais fel Newyddiadurwr Radio yn y BBC - rôl a oedd yn mynnu sgiliau gwrando miniog ac ymgysylltiad cyson â sain, er fy mod i’n drwm fy nghlyw.
Ond o dan groen, roedd brwydr gyson. Roedd sefyllfaoedd cymdeithasol yn dir peryglus - roeddwn i'n colli darnau o sgyrsiau gyda ffrindiau yn yr ysgol ac yn yr ystafelloedd dosbarth, a phan yn gofyn i bobl ailadrodd eu hunain, byddent yn aml yn dweud “paid a phoeni.”
Fel oedolyn, dysgais i wenu a ffugio dilyn sgyrsiau gyda teulu a ffrindiau, hyd yn oed pan nad oedd gen i unrhyw syniad beth oedd yn cael ei ddweud – er mwyn peidio â difetha'r hwyliau. Roedd byw fel hyn yn golygu cario pwysau tawel o deimlo'n anweledig. Roeddwn i'n aml yn dod adref o'r gwaith wedi blino ar ôl ganolbwyntio mor galed drwy'r dydd ac o ddarllen gwefusau - hyn rwy'n ei adnabod bellach fel blinder clyw.
Mae byddardod yn anabledd sydd ddim yn weladwy, ac roeddwn i'n teimlo yn aml, oherwydd and oedd pobl yn gweld fy ngholled clyw, bod dim pwynt codi fy llais am y peth. Dywedodd arbenigwyr na fyddai cymhorthion clyw o fudd i mi oherwydd fy math penodol o golled clyw - ac nid oedd y mewnblaniadau cochlear unochrog yn opsiwn ar ddiwedd y 1990au pan oeddwn i'n blentyn. Fy unig gysylltiad â diwylliant Byddar wrth dyfu i fyny oedd gweld defnydd Mr Tumble o iaith arwyddio ar y teledu.
Felly, dysgais i dderbyn fy realiti – a chario ymlaen, addasu a dim ond gwneud fy ngorau.
Ond yn ystod cyfnod clo y pandemig Covid-19, newidiodd rhywbeth. Roedd y pandemig yn anodd am sawl rheswm - roedd cyfarfodydd wedi symud ar-lein yn lle bod wyneb yn wyneb, ac roedd pawb yn gwisgo masgiau, a oedd yn ei gwneud bron yn amhosibl gwneud allan beth oedd pobl yn ei ddweud.
Roeddwn i, ynghyd â llawer o bobl yn ystod y cyfnod hwnnw, hefyd yn gronig ar-lein a byddwn yn sgrolio TikTok yn ddiddiwedd i lenwi'r oriau wrth fod yn sownd y tu mewn.
Dechreuais gael fideos yn ymddangos gan bobl Fyddar a thrwm eu clyw eraill yn siarad am sut roeddent yn ymdopi â’r ‘normal newydd’ y cyfnod a sut roeddent yn codi eu lleisiau drostynt eu hunain. Ar yr un pryd, roedd mwy a mwy o bobl yn dechrau defnyddio llinynnau Heulflodau mewn lleoliadau cyhoeddus fel ffordd i roi gwybod i eraill fod ganddynt anabledd cudd.
I mi, roedd hyn yn teimlo'n radical ac yn rhyddhaol ar yr un pryd. Daeth pobl yn fwy ymwybodol o rai o'r rhwystrau yr oedd pobl anabl yn eu hwynebu wrth wneud rhywbeth mor syml â mynd i'r archfarchnad - ac roedd mwy o bobl yn adfocadu drostynt eu hunain ac am well mynediad.
Roeddwn i'n teimlo'n feiddgar gan hyn a dechreuais adfocadu mwy dros fy hun hefyd. Roedd gen i'r hyder i ofyn am addasiadau gwell yn y gwaith a ffoniais y meddyg teulu i weld os oedd mwy o gymhorthion ac offer y gallwn eu defnyddio I fy helpu. Oherwydd hyn, darganfyddais fod datblygiadau newydd mewn technoleg cymorth clyw a chefais math arbennig o gymhorthydd clyw a fyddai'n defnyddio Bluetooth i godi sain o fy ochr fyddar a'i sianelu drosodd yn ddi-wifr i'r clust well.
Dechreuais rannu gyda ffrindiau a theulu sut roedd bywyd yn teimlo drwy'r blynyddoedd, a sut weithiau roeddwn i wedi teimlo'n ynysig ar adegau. Ysbrydolodd hyn yn ei dro rai o aelodau o fy nheulu i ddechrau dysgu iaith arwyddio fel y gallent fod yn well cynghreiriaid i bobl eraill sy'n byw gyda cholled clyw.
Am y rhan fwyaf o fy mywyd, roeddwn i'n teimlo fel bod rhaid i mi addasu'n dawel, er mwyn lleihau fy anghenion fel na fyddwn yn amharu ar lif y byd clyw o'm cwmpas.
Ond fe wnaeth ddysgu sut i adfocadu dros fy hun, cofleidio'r offer sy'n fy nghefnogi, a chysylltu ag eraill sy'n rhannu profiadau tebyg fy helpu i sylweddoli nad oes rhaid i mi gerdded ar fy mhen fy hun. Rwy'n awr yn ymfalchïo yn yr hunaniaeth. Nid yw bod yn drwm fy nghlyw yn rhywbeth sydd angen i mi ei guddio neu ei oresgyn - dim ond rhan o bwy ydw i. Ac wrth hawlio hynny, rydw i wedi dod o hyd i lais uwch, balchach nag yr oeddwn i erioed yn meddwl yn bosibl.
Gan Hollie Smith, Intern Newyddion a'r Cyfryngau