Staffnet+ >
Yr Wythnos Gyda Rob 18 Gorffennaf 2025
Yr Wythnos Gyda Rob
18 Gorffennaf 2025
Helo Bawb,
Rwy'n gobeithio eich bod chi i gyd wedi cael wythnos wych arall a chael cyfle i fwynhau'r heulwen y penwythnos diwethaf.
Wrth i'r tymheredd godi, roedd y penawdau yma yn y Fro felly hefyd. Os ydych chi'n oeri i lawr neu'n dal i fynd ar drywydd yr haul, dyma beth sy'n boeth oddi ar y wasg yr wythnos hon.
Rydym bellach dros hanner ffordd drwy Fis Balchder Anabledd ac ni fu prinder digwyddiadau i nodi'r mis pwysig hwn o ymwybyddiaeth a gwelededd.
Ddydd Llun, cefais y pleser o ymuno â chydweithwyr, ein ffrindiau yn ValePlus a chynrychiolwyr o'r elusen Mind y tu allan i'r Swyddfeydd Dinesig yn y Barri ar gyfer codi'r Faner Balchder Anabledd a drefnwyd gan Faer Bro Morgannwg.
Mae Mis Balchder Anabledd yn annog sgyrsiau agored ac yn codi ymwybyddiaeth am amrywiaeth cyfoethog profiadau o fewn y gymuned anabl. Mae hefyd yn tynnu sylw at yr angen parhaus am hygyrchedd a chysylltiad - gwerthoedd rydym yn falch o'u hyrwyddo yma fel sefydliad.
Roedd hi'n hyfryd gweld cydweithwyr y Fro a'r gymuned yn dod at ei gilydd i ddangos eu cefnogaeth. Mae digwyddiadau fel hyn yn ein hatgoffa pa mor bwerus y gall gwelededd a chynhwysiant fod, ond hefyd sut y gallwn ni i gyd fod yn well cynghreiriaid i'r gymuned anabl.
Ymgynnullodd aelodau a chynghreiriaid Abl - rhwydwaith staff anabledd y Cyngor - ddydd Llun hefyd i nodi Mis Balchder Anabledd, a ddaeth i ben gyda chyfarfod rhwydwaith yn Ystafell Dunraven yn y Swyddfeydd Dinesig.
Nod Rhwydwaith Abl yw hyrwyddo staff ag anableddau, darparu gwybodaeth a chymorth, ac yn codi ymwybyddiaeth i feithrin gweithle mwy hygyrch.
Mae Abl hefyd yn croesawu ac yn annog cydweithwyr i gymryd rhan fel cynghreiriaid i ddangos eu cefnogaeth a'u hymrwymiad i adeiladu amgylchedd mwy cefnogol a dealltwriaethol i bawb.
Am ragor o wybodaeth am Abl, neu os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r rhwydwaith — cliciwch yma.
Mewn newyddion eraill, mae Gŵyl Natur y Fro yn dychwelyd i Barc Gwledig Cosmeston y penwythnos hwn ar gyfer digwyddiad rhad ac am ddim i deuluoedd ac yn dathlu natur ar draws Bro Morgannwg.
Mae'r ŵyl — sy'n cael ei threfnu gan Bartneriaeth Natur y Fro - yn dod â sefydliadau lleol a grwpiau cymunedol ynghyd i ddathlu ein hamgylchedd naturiol. Gall ymwelwyr archwilio ystod o stondinau rhyngweithiol, cymryd rhan mewn gweithgareddau gwyddoniaeth dinasyddion, mwynhau adrodd straeon byw, a rhoi cynnig ar grefftau ymarferol a gweithgareddau sy'n seiliedig ar natur.
Bydd y digwyddiad rhad ac am ddim yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 19 Gorffennaf rhwng 11y.b – 4y.p gyda thocynnau ar gael yma.
Wrth drafod Cosmeston, hoffwn ddweud ychydig o eiriau am agoriad diweddar yr Aqua Park yn Llynnoedd Cosmeston.
Yn gynharach eleni, penderfynwyd cymeradwyo defnyddio'r llyn dwyreiniol ym Mharc Gwledig Cosmeston i dreialu parc dŵr awyr agored, a allai hefyd alluogi rhagor o gyfleoedd incwm i'n Parciau Gwledig — yn enwedig wrth gefnogi'r gwaith ail-wylltio a chadwraeth sydd eisoes ar y gweill yn Cosmeston.
Mae'r cynllun peilot Aqua Park bellach ar y gweill a bydd yn dod i ben ar ddiwedd yr haf, lle bydd adolygiad wedyn yn dilyn i asesu sut aeth y peilot.
Mae treialu'r Aqua Park yn Cosmeston yn gyfle i wneud pethau'n wahanol fel Cyngor, ac er bod ein penderfyniadau weithiau yn rhannu barn, nid yw hyn yn golygu na ddylem roi cynnig ar bethau newydd. Os ydyn nhw'n gweithio yna, gwych, ac os nad ydyn nhw'n gwneud hynny, rydym yn dysgu ac ailosod.
Dyna'r math o feddwl sydd ei angen arnom wrth i ni esblygu fel sefydliad, fel y gallwn fod y cyngor gorau y gallwn fod i'n trigolion.
Er ein bod yn archwilio cyfleoedd newydd drwy gynlluniau peilot fel yr Aqua Park yn Cosmeston, mae yr un mor bwysig tynnu sylw at y gwaith parhaus sy'n gwneud gwahaniaeth uniongyrchol ym mywydau ein trigolion ar hyn o bryd.
Un enghraifft o'r fath yw'r ymdrech anhygoel y tu ôl i gynllun Grant Hanfodion Ysgolion eleni.
Mae galw mawr wedi bod am ein cynllun Grant Hanfodion Ysgolion ac rydym yn falch o fod yn camu ymlaen i gefnogi teuluoedd ledled y Fro yn ystod y cyfnod hollbwysig hwn.
Ers i'r cynllun ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod fynd yn fyw ar 1 Gorffennaf, rydym eisoes wedi talu £163,825.00 mewn grantiau i deuluoedd incwm isel. Mae'r cyllid hwn yn helpu i leddfu'r pwysau o gostau ôl-i'r ysgol, gan sicrhau bod 676 o deuluoedd a 1,218 o blant yn cael mynediad at yr hanfodion sydd eu hangen arnynt ar gyfer dechrau hyderus i'r flwyddyn ysgol.
Dim ond yr wythnos diwethaf yn unig, proseswyd £74,700.00 mewn grantiau - gan dynnu sylw at lefel wirioneddol o angen am y cymorth hwn.
Hoffwn ddiolch yn fawr i Vicky Rees a Frances Jones, sydd wedi gweithio'n ddiflino i brosesu'r nifer anhygoel hwn o geisiadau mewn ychydig dros bythefnos. Mae eu hymroddiad wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gannoedd o deuluoedd. Gwaith arbennig!
O helpu teuluoedd i baratoi ar gyfer y flwyddyn ysgol i ddathlu ysgolion sy'n hyrwyddo cynhwysiant a lles, rwy'n falch iawn o rannu newyddion gwych gan Ysgol Gynradd yr Eglwys Holl Seintiau yng Nghymru, sydd wedi cyflawni nid un ond dwy wobr genedlaethol gan gydnabod ei hymrwymiad rhagorol i gynhwysoldeb a chefnogaeth disgyblion.
Yn gyntaf, mae'r Holl Seintiau wedi cael ei achredu yn swyddogol fel Ysgol Noddfa. Mae'r wobr hon yn dathlu dull cymunedol gyfan yr ysgol o greu amgylchedd cynnes, croesawgar a chynhwysol i bob plentyn, gan gynnwys y rhai sy'n ceisio noddfa.
Canmolodd y panel asesu awyrgylch gwahodol yr ysgol, arddangosfeydd cynhwysol ac arweinyddiaeth ysbrydoledig disgyblion - gan dynnu sylw at grwpiau fel y Cyfieithwyr Ifanc a Coch i Hiliaeth - y siaradodd eu haelodau yn hyderus am gefnogi eraill a hyrwyddo cydraddoldeb a gwrth-hiliaeth, gyda chanmoliaeth hefyd i Mrs A. Williams, a arweiniodd y gwaith hwn drwy helpu i wireddu gweledigaeth yr ysgol o fod yn gymuned wirioneddol ddiogel a chynhwysol.
Dyfarnwyd Gwobr Sylfaen Rhaglen Gofalwyr Ifanc mewn Ysgolion i'r ysgol hefyd. Mae hyn yn cydnabod ymrwymiad cryf yr ysgol i adnabod a chefnogi gofalwyr ifanc yn ei chymuned. Mae'r llwyddiant hwn yn dilyn cyflwyniad portffolio manwl dan arweiniad Mrs E. Evans, Arweinydd ADYch a Gofalwyr Ifanc yr ysgol, y cafodd ei waith ganmoliaeth uchel hefyd gan y tîm dyfarnu.
Llongyfarchiadau i bawb yn Ysgol Gynradd yr Eglwys Holl Seintiau yng Nghymru am y cyflawniadau haeddiannol hyn - mae'n ysbrydoledig gweld y fath ymroddiad i gynhwysiant a lles disgyblion ar waith.
Yn olaf, yn dilyn llwyddiant ein sesiynau OneDrive, mae arbenigwyr digidol Chess yn dychwelyd gyda gweminar fyw a gynlluniwyd i helpu holl staff y Fro - waeth beth fo'u rôl neu brofiad - i gael y gorau o Microsoft Teams.
Os ydych chi'n newydd i Teams neu'n awyddus i wella eich sgiliau, bydd y sesiwn hon yn rhoi awgrymiadau ymarferol i chi sy'n hybu hyder i'ch helpu i weithio'n ddoethach. Dysgwch sut i ddefnyddio nodweddion allweddol yn fwy effeithiol, llywio offer dyddiol yn rhwydd a chynnal cyfarfodydd mwy cynhyrchiol.
I ymuno â gweminarau Microsoft Teams byw:
Dydd Mawrth 22ain Gorffennaf, 11-12.30y.p Cofrestrwch yma
Dydd Iau 31ain Gorffennaf, 2-3.30y.p Cofrestrwch yma
Fel bob amser, diolch am eich cyfraniadau yr wythnos hon — maent bob amser yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gennyf fi a'r Tîm Arweinyddiaeth Strategol (SLT).
I'r rhai sydd ddim yn gweithio y penwythnos hwn, mwynhewch gwpl o ddiwrnodau o orffwys ac ymlacio.
Diolch yn fawr iawn,
Rob