Staffnet+ >
Byddwch yn barod ar gyfer Wythnos Gofalwyr 2025 (Mehefin 9fed — Mehefin 15fed)
Byddwch yn barod ar gyfer Wythnos Gofalwyr 2025 (Mehefin 9fed — Mehefin 15fed)
Mae Wythnos Gofalwyr yn prysur agosáu.
Os ydych yn gofalu, yn ddi-dâl, am ffrind neu aelod o'r teulu, sy'n berson ag anabledd, sydd â salwch corfforol neu feddyliol neu berson ag anhwylder defnyddio sylweddau, rydych chi'n ofalwr di-dâl.
Mae Wythnos Gofalwyr, sy'n cael ei chynnal rhwng 9-15 Mehefin, yn ymgyrch ymwybyddiaeth ledled y DU sy'n ceisio codi ymwybyddiaeth o ofalu, tynnu sylw at yr heriau y mae gofalwyr yn eu hwynebu a chydnabod y cyfraniad y maent yn ei wneud i deuluoedd a chymunedau.
Mae'n cael ei gefnogi gan wyth elusen fawr. Y thema ar gyfer 2025 yw 'Gofalu am Gydraddoldeb', sy'n galw am gymdeithas gyfartal lle mae gofalwyr yn cael eu gwerthfawrogi, eu cydnabod a'u cefnogi yn wirioneddol.
I gael gwybod mwy am Wythnos Gofalwyr, neu i gymryd rhan, ewch i'r wefan.