Proffil Staff Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
Wrth i ni agosáu at Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2025, rydym wedi bod yn siarad â rhai o'r menywod ysbrydoledig ar draws ein sefydliad i ddysgu ychydig mwy am eu gyrfaoedd a'u gwaith yn y Fro.
Yr wythnos hon, fe wnaethon ni ddal i fyny gyda Victoria Davidson, Swyddog Monitro'r Cyngor a Phennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd.
Yn gyntaf, a fyddech chi'n gallu cyffwrdd ar lwybr gyrfa eich hun, a sut y gwnaethoch chi weithio i Gyngor Bro Morgannwg yn y pen draw?
"Roeddwn i'n arfer gweithio yn y sector preifat, felly dwi wedi cael ystod eithaf eang o rolau o fewn hynny, gan ddechrau gyda'r gyfraith droseddol. Ymgymerais i â gwaith amddiffyn troseddol i gwmni preifat, felly roeddwn i'n arfer cynrychioli pobl yng ngorsaf yr heddlu pan gawsant eu harestio yn ogystal ag yn y llysoedd, a dwi wedi delio â rhai achosion eithaf mawr yn Llys y Goron hefyd.
"O'r fan honno, roedd gen i deulu, a chan fod y plant yn eithaf ifanc ar y pryd, penderfynais i rhwng cyfnod mamolaeth a seibiannau eraill, ni fyddai gweithio mewn ymgyfreitha troseddol yn eistedd yn dda gyda gofalu am deulu ifancm gan y byddai'n rhaid i mi fynd allan i orsafoedd heddlu yn hwyr yn y nos weithiau ac roedd rhaid bod ar alwad.
"Arhosais yn yr un cwmni am gyfnod a gweithiais i mewn cwpl o feysydd gwahanol - gan wneud rywfaint o waith eiddo a chontract, yn ogystal â rhywfaint o waith profiant ac rwy'n tybio bod hyn wedi arwain at symud ymlaen i lywodraeth leol yn y pen draw.
"Dechreuais i weithio o fewn cyfraith teulu - felly ysgariad a chyfraith teulu preifat ategol gyda fy cleientiaid fy hun. Datblygodd hynny wedyn i gynrychioli cleientiaid sy'n ymwneud â chyfraith deuluol gyhoeddus - felly yn y bôn yn cynrychioli rhieni yr oedd eu plant wedi cael eu cymryd i ofal yr awdurdod lleol, neu lle nad oedd yr awdurdod lleol yn gweithredu fel rhiant corfforaethol o dan orchymyn gofal, ond roedd ganddynt bryderon diogelu mewn perthynas â rhianta plant hynny.
"Ym mhen tua 2007, penderfynais i fy mod i wedi cymryd fy ngyrfa yn y sector preifat cyn belled ag y gallwn, ac doeddwn i ddim yn meddwl bod y cam nesaf i mi yn iawn oedd mynd i fod yn bartner. Roedd llawer o newidiadau yn cael eu gwneud i gyfraddau cymorth cyfreithiol ar y pryd ac rydych chi'n cyrraedd pwynt lle rydych chi'n gorfod cyrraedd targedau cost, ac roedd fy nharged cost dair gwaith a hanner fy nghyflog ac mae'n gorddi iawn.
"Fe wnes i gais am y swydd yng Nghyngor Bro Morgannwg ac ymunais i â'r tîm Gwasanaethau Cymunedol. Ar y pwynt hwn, roeddwn i wedi dechrau gweithredu ar ran yr ochr arall ac roeddwn yn delio â llwyth achosion mewn perthynas â phlant a phobl ifanc o dan wasanaethau cymdeithasol - lle roedd naill ai bryderon amddiffyn plant, plant yn cael eu cymryd i ofal, ac mewn rhai achosion, plentyn yn cael ei wneud yn ddarostyngedig i orchymyn mabwysiadu neu'n cael ei roi i'w fabwysiadu.
"Dyna oedd fy ngwaith yn bennaf rhwng 2007 a 2013, gyda chwpl o gyfrifoldebau ychwanegol, gan gynnwys rhywfaint o waith gofal cymdeithasol.
"Yn 2013, gadawodd fy rhagflaenydd rôl Rheolwr Gweithredol ar gyfer Gwasanaethau Cyfreithiol ac awgrymwyd i mi rol fy enw ymlaen ar gyfer y rôl honno. Roedd yn achos wedyn o reoli tri thîm cyfreithiol a thîm gwasanaethau'r pwyllgor, ac yna wrth i'r blynyddoedd fynd yn eu blaen, cymerais i gyfrifoldeb am y tîm gwasanaethau etholiadol hefyd gan fod Pennaeth Gwasanaeth ar y pryd oedd y swyddog canlyniadau ar gyfer y Cyngor.
"Yna yn 2023, roeddwn i'n gweithio yn fy swydd bresennol ar sail tymor byr, ac yn ystod y cyfnod hwnnw daeth fy rhagflaenydd o hyd i swydd newydd a wnes i gais am y rôl rydw i ynddi heddiw."
Gan ddod o'r hyn a allai fod wedi cael ei ystyried yn faes a oedd yn cael ei dominyddu gan ddynion yn y gyfraith, sut wnaethoch chi lywio hynny?
"Rydw i o genhedlaeth wahanol - cenhedlaeth hŷn - ac i fod yn gwbl onest, roedd yn rhaid i chi addasu eich ymddygiad ac yn amlwg cynnal eich proffesiynoldeb mewn rhai amgylchiadau, a roedd hynny'n eithaf heriol weithiau.
"Yn fy mhrofiad i - ac mae hyn yn gyffredinoli - roeddwn i'n arfer gwneud llawer o waith gyda'r heddlu, ac roedd y diwylliant bryd hynny yn wahanol iawn. Roeddwn i bob amser wedi cynnal proffesiynoldeb, ac wedi gallu delio ag ystod amrywiol o unigolion.
"Roedd dynion yn dominyddu'r diwydiant, ond fel cyfreithiwr cymwys, roeddwn i'n gallu bwrw ymlaen â'r swydd a thrin pawb yr un fath. Ond, roedd yna gyfnod pan o'n i'n edrych yn ôl i phan oeddwn yn fy 20au, roedd e'n gyfnod eithaf heriol.
"Rwy'n credu bod rhai o'r profiadau cynharach hynny wedi fy ngwneud yn weithiwr eithaf cadarn ac yn eithaf addasadwy wrth ddelio â phobl, ac rwy'n dyfalu bod y profiadau hynny'n llywio sut rydych chi'n gweithio nawr. Dyw e ddim yn rhywbeth dwi'n treulio llawer o amser yn meddwl amdano erbyn hyn, ac yn sicr pan ddes i i weithio i'r Fro, roedd y ddiwylliant yn hollol wahanol."
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi - fel rhywun sydd bellach mewn swydd uwch arweinyddiaeth - i rywun sydd newydd ddechrau ar eu gyrfa?
"Rwy'n tybio ei fod yn ymwneud â bod yn ddilys, bod yn onest, bod yn garedig â chi'ch hun mewn gwirionedd. Mae angen i chi fod yn wirioneddol i chi'ch hun ac i gydnabod eich bod chi'n mynd i gael heriau hefyd. Mae gan bawb eu terfynau ar gyfer rhai pethau, ac bydd rhai dyddiau yn mynd i deimlo'n dda ac yna'r diwrnod wedyn, efallai byddech chi'n dymuno byddech chi wedi gwneud rhywbeth yn wahanol.
"Mae'n debyg mai'r hyn rydw i wedi'i ddysgu nawr yn y blynyddoedd rydw i wedi bod yn ymarfer yw peidio â thrigo gormod ar yr hyn y gallech chi ei ystyried yn gamgymeriadau - sy'n aml yn brofiadau dysgu mewn gwirionedd - byddwch chi'n gwybod beth i wneud yn well, yn gwella eich perfformiad ac yn gwella rhyngweithio â phobl hefyd yn y pen draw.
"Rwy'n credu ar gyfer menywod - ac rwy'n credu ei fod yr un mor berthnasol i ddynion hefyd - ond rwy'n credu bod menywod yn tueddu i gario math o deimladau fel 'imposter syndrome' gyda nhw. Rwy'n credu nad yw hynny'n unigryw i fenywod ac rwy'n credu bod dynion yn profi hynny hefyd, ond rwy'n credu mewn sefydliad mawr lle mae math o bwysau cystadleuol i weithio, yr allwedd yw gweithio ar y cyd.
"Unai ar draws eich gwasanaeth tîm, ar draws y gyfarwyddiaeth neu y cyngor cyfan hyd yn oed, dim ond gwneud y gwaith gorau y gallwch chi a bod y fersiwn orau ohonoch chi eich hun.
"Gallwch chi gael cymaint o foddhad o weithio yn y sector cyhoeddus. Rwy'n gwybod ei fod yn dod gyda'i fanteision o'i gymharu â'r sector preifat ac mae manteision yn y sector preifat hefyd, ond mewn gwirionedd, rydych chi'n ennill y gallu hwnnw i ymfalchïo yn y gwaith - o ddarparu cyngor cyfreithiol i gefnogi aelodau - y gwaith ni'n ei wneud yn gallu wneud gwahaniaeth.
"I mi, mae'n fwy diddorol, a gallwch chi weld y manteision a'r canlyniadau yn y sector gyhoeddus — mae mwy o werth ynddo na pheidio."
Yn olaf, pa fath o bethau ydych chi'n eu gwneud i ymlacio ar ôl gwaith?
"Rwy'n gerdded lotm ac rwy'n ceisio mynd i'r gampfa cymaint a phosib. Rwy'n hoffi nofio ac rwy'n hoffi darllen a choginio hefyd.
"Dwi'n mwynhau gweld ffrindiau a mynd i gyngherddau.
"Mae wedi bod yn anodd iawn yn ystod y flwyddyn a hanner ddiwethaf oherwydd roeddwn i'n rhannu rôl arall, ond bydd gen i fwy o amser cyn bo hir i allu adeiladu mewn peth amser i mi fy hun eto a cheisio adeiladu rhywfaint o gydbwysedd gwaith/bywyd gan fod hynny'n bwysig iawn."