Diwrnod gyda Pantri FoodShare Llanilltud Fawr

08 Mai 2025

Bob bore Iau, mae cynwrf o symudiad i mewn ac allan o’r Pantri FoodShare yn Llanilltud Fawr — gyda phobl yn gosod byrddau, rhoi cynnyrch ffres allan a stocio silffoedd wrth iddynt baratoi i agor eu drysau yn adeilad canolfan gymunedol CF61 yn Llanilltud Fawr i'r gymuned leol.

Mae mwy o wirfoddolwyr FoodShare yn dechrau cyrraedd yn frysiog wrth i bobl leol ddechrau ciwio ymhell cyn oriau agor y pantri rhwng 12:00yp a 14:00yp.

Yn allweddol i Brosiect Bwyd Llanilltud Fawr, mae'r Pantri yn brosiect sy'n agored i bawb, gyda'r nod o atal ansicrwydd bwyd a gwastraff bwyd.

Gall trigolion o'r gymuned leol ddod bob wythnos i ychwanegu at eu siop wythnosol am ffracsiwn o brisiau archfarchnadoedd, tra hefyd yn gwneud eu rhan i atal bwyd dros ben rhag mynd i safleoedd tirlenwi. 

Dywedodd Nic, sy'n goruchwylio'r Patri FoodShare yn Llanilltud Fawr, nad oes unrhyw ddiwrnod yr un fath: “Rydyn ni yma bob dydd Iau yn Llanilltud Fawr, ac rydym hefyd yn rhedeg yn Sain Tathan bob yn ail ddydd Mercher hefyd. Nicola Osgood

“Mae ein gwirfoddolwyr eisoes yma am gwpl o oriau yn setio pethau lan cyn i ni agor y drysau i bobl ddod i mewn a chael gafael ar fwyd dros ben. Rydym hefyd yn ychwanegu at yr hyn sydd ar gael fel y gall pobl wneud prydau cyfan ac bydd gwirfoddolwyr yma i dderbyn y danfoniadau a setio pethau lan y diwrnod cynt hefyd.

“Am bum punt, maen nhw'n cael gwneud siop fwyd lle gallant ddewis un eitem allan o'r rhewgell, un eitem allan o'r oergell, chwe eitem o'r silffoedd a chyfran deg o'r swm o ffrwythau, llysiau a chynhyrchion becws sydd gennym ar gael.”

Ychwanegodd: “Mae tarddiad y pantri yn mynd yn ôl i tua 2017, ond i ddechrau, dim ond bwrdd ar ddiwedd y dydd oedd gyda pha bynnag gwastraff o’r archfarchnad oedd ar gael - dim ond un bwrdd o fara a chynhyrchion eraill ble y gallai pobl yn y gymuned leol ddod i gael mynediad am ddim, a dim ond er mwyn helpu i ddiogelu'r amgylchedd ac atal gwastraff bwyd. 

“Ers hynny mae wedi esblygu i'r prosiect enfawr sydd heddiw - rydym yn gwasanaethu rhwng 70 a 80 o aelwydydd yr wythnos ar gyfartaledd yn Llanilltud Fawr gyda mwy ar ben hynny ym mhantri Sain Tathan hefyd, felly mae'n brosiect eithaf mawr nawr.”

Ers ei sefydlu, mae'r Pantri FoodShare — sy'n cael ei reoli a'i ariannu a'i gefnogi gan GVS ac ystod o sefydliadau gan gynnwys Cyngor Bro Morgannwg, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Y Loteri Genedlaethol a Sefydliad Moondance - wedi dod yn rhan allweddol o ganolbwynt cymunedol ehangach sydd bellach yn gweithredu yn adeilad CF61.

Bob trydydd dydd Iau o'r mis, mae amrywiaeth o dimau’r Cyngor yn cysylltu â phartneriaid allanol - fel Pantri FoodShare - ar gyfer sesiwn Galw Heibio Cymunedol yn CF61, fel rhan o Brosiect Bwyd Llanilltud, er mwyn cynorthwyo darparu ystod eang o gymorth a gwasanaethau i breswylwyr.

Yna gellir cyfeirio preswylwyr sy'n mynychu’r Pantri er enghraifft, at gymorth uniongyrchol yn yr ystafell drws nesaf gan sefydliadau lleol eraill, prosiectau a gwasanaethau y Cyngor a allai fod yn ddefnyddiol iddynt.

Parhaodd Nic: “O ran bod y cyfan o dan yr un to, mae gennych fynediad at bethau fel y Chatty Caffi ar y safle - mae'n gwneud gwahaniaeth enfawr, ac rydyn ni'n wirioneddol lwcus bod hyn wedi dod yn ganolbwynt i bobl yn y gymuned.foodshare pantry

“Mae pobl yn tueddu i ddod i siopa gyda ni ar yr un pryd, ac yn gyffredinol mae'r un bobl yn gweld ei gilydd hefyd ar yr un pryd bob wythnos, ac mae hynny'n hynod werthfawr i lawer o'n cwsmeriaid.

“Y rhythm hwnnw, y cysylltiad cymdeithasol wythnosol, nid yn unig gyda’i gilydd fel cwsmeriaid, ond gyda'r staff a'r gwirfoddolwyr yma, gyda'r gwirfoddolwyr sydd yn y Chatty Caffi a’r Banc Dillad, a gyda staff y Cyngor yn y canolfan gyngor. Mae'n gasgliad anhygoel o gyfleusterau a gwasanaethau yr ydym wedi bod yn ffodus iawn i allu eu cynnig i bobl, mae'n anhygoel.”

Nid oes meini prawf cymhwysedd ar gyfer siopa yn y Pantri ac mae staff a gwirfoddolwyr yn pwysleisio, p'un a ydych chi'n profi angen cael gafael ar fwyd neu os hoffech helpu i atal gwastraff bwyd, mae croeso i bawb.

Cynhelir Pantri FoodShare Llanilltud Fawr yn adeilad CF61 yng nghanol Llanilltud Fawr (Heol yr Orsaf, CF61 1ST) bob dydd Iau rhwng 12:00yp – 14:00yp. 

Gellir archebu slotiau ar gyfer y Pantri FoodShare yma.