Marathon mewn diwrnod: Eleanor Croft yn carlamu trwy Farathon Llundain

06 Mai 2025

Yn ddiweddar, cymerodd Eleanor Croft, Cynrychiolydd Gwasanaethau Cwsmeriaid yn C1V, ran ym Marathon Llundain i godi arian ar gyfer Sefydliad Make a Wish.

Cwblhaodd y ras mewn pedair awr a phum deg saith munud er anrhydedd i Osian, ffrind gorau ei chwaer fach.

Dim ond 15 oed oedd Osian pan gafodd ei ruthro i'r ysbyty ar ôl datblygu MICS-C (Syndrom Llidiol Amlsystem Mewn Plant sy'n gysylltiedig â Covid) ac wedi hynny dioddefodd bedwar trawiad ar y galon ac yn ddiweddarach derbyniodd drawsblaniad calon ar 30 Mehefin 2023.

eleanor london marathon

Dywedodd Eleanor: “Roeddem mor ddiolchgar pan lwyddodd Osian i ddychwelyd adref mewn pryd ar gyfer y Nadolig. Tra roedd Osian adref, fe ddaeth â goleuni yn ôl i'n bywydau i gyd ac roedd yn ymddangos fel pe bai'n gwella ac fe wnes i wneud jôc y byddwn i'n rhedeg Marathon Llundain iddo cyn belled ag y byddai'n dod i fy nghefnogi.”

Yn anffodus, bu farw Osian ar 19 Mehefin 2024 a phenderfynodd Eleanor ddilyn drwodd ei chytundeb gydag Osian gan hyfforddi ar gyfer Marathon Llundain eleni a chymryd rhan ynddi.

Yn dilyn llwyddiant Eleanor yn y ras, rhuthrodd ei chydweithwyr yn C1V i'w llongyfarch, gyda Nikki Johns, Pennaeth Digidol, yn ychwanegu: “Roedd yn wych gweld Eleanor i fynd â'i hegni diderfyn i redeg Marathon Llundain. Mae hi'n aelod brwdfrydig o'r tîm felly roeddem yn gwybod, unwaith y bydd hi'n gosod ei meddwl ato, y byddai'n ei chwalu.

“Mae ei medal haeddiannol wedi'i rhannu o amgylch y Ganolfan Gyswllt yn barod ac rydym yn hynod falch o'r arian mae hi wedi'i godi ar gyfer achos mor bwysig.”

Mae Eleanor yn dal i obeithio cyrraedd ei tharged terfynol o £2500 a gellir gwneud unrhyw roddion yma.