Staffnet+ >
Prosiect Bwyd Llanilltud: Cwmni, Cymuned a Chwpanau o De
Prosiect Bwyd Llanilltud: Cwmni, Cymuned a Chwpanau o De
15 Mai 2025
Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn tynnu sylw at rai o wahanol rannau Prosiect Bwyd Llanilltud yn Llanilltud Fawr.
Mae Prosiect Bwyd Llanilltud yn brosiect partneriaeth arobryn sy'n ceisio cynyddu gwydnwch cymunedol, mynd i'r afael â gwreiddiau achosion ansicrwydd bwyd a lleihau gwastraff bwyd.
Yr wythnos hon, roeddem am daflu goleuni ar effaith gymunedol Prosiect Bwyd Llanilltud.
Dwywaith y mis, mae trigolion Llanilltud Fawr o bob oed yn ffrydio i Neuadd Colhuw yn adeilad cymunedol CF61 yn Llanilltud Fawr ar gyfer y Chatty Caffi - menter gymunedol sy'n ceisio dod â'r gymuned at ei gilydd dros ddiod gynnes.
Maent yn cael eu croesawu gan grŵp o wirfoddolwyr ymroddedig sydd wedi bod yn brysur yn sefydlu'r neuadd ac yn bragu te a choffi drwy'r bore.
Mae'r Chatty Caffi — sy'n un o fannau cynnes dynodedig y Fro — hefyd yn rhan o'r hwb 'Mwy na Bwyd' sy'n cael ei gynnal ar y trydydd dydd Iau o bob mis lle mae amrywiaeth o sefydliadau — gan gynnwys timau’r Cyngor — yn cysylltu yn adeilad canolfan gymunedol CF61 i helpu i ddarparu ystod eang o gymorth a gwasanaethau.
Un preswylydd sydd wedi dod yn ymwelydd rheolaidd â'r Chatty Caffi yw Edna o Lanilltud Fawr.
Daw Edna, sydd hefyd yn byw gyda dementia, i'r Chatty Caffi i gwrdd â'i ffrindiau bowlio Lynn ac Eta: “Mae mor hyfryd yma ti'n gwybod, mae pawb mor gyfeillgar, ac mae'n gwneud gwahaniaeth mawr.
“Mae ein ffrindiau sy'n gweini'r te a'r coffi tu ôl i'r cownter, maen nhw'n gwneud pethau hyfryd yma mewn gwirionedd. Rydyn ni'n dod yma ac rydyn ni'n siarad am unrhyw beth a phopeth a ddweud y gwir - mae'n eich helpu chi i fynd allan o'r tŷ ac mae'n hyfryd dod yma i weld pawb.”
Wrth i Edna ddal i fyny gyda'i ffrindiau a rhannu rhai danteithion melys, ar ochr arall yr ystafell mae Richard, y PCSO lleol, sydd hefyd yn dod i sgwrsio â thrigolion.
Dywedodd Richard ei fod yn gyfle gwych i glywed gan drigolion yn uniongyrchol mewn amgylchedd cyfeillgar: “Mae'n ffordd dda o siarad â rhai o'r trigolion nad ydym yn aml yn eu gweld allan yn y gymuned. Rydyn ni'n cael eu barn, yn cael sgwrs gyda nhw, ac rwy'n eu helpu nhw lle gallaf.
“Er enghraifft, roedd un o'r merched oedrannus yn cael trafferth gyda'r apiau ar ei ffôn, felly mae modd helpu pobl mewn ffyrdd bach fel 'na hefyd. Os oes ganddyn nhw unrhyw bryderon o fewn y gymuned, gallwn fynd i'r afael â nhw yma hefyd.”
Ychwanegodd: “O ran bod yma ar y trydydd dydd Iau, mae'n ffordd wych o gysylltu â phobl o bob math o gefndiroedd a phrofiadau gwahanol. Rydym yn cydweithio gyda chymaint o bobl ag y gallwn, gyda'r rhai sydd eu hangen arnom yn ogystal â rhai o'r grwpiau sy'n gweithio yma.
“Os byddwn yn darganfod eu bod nhw'n gwneud stwff yng ngwyliau'r ysgol ac os ydym ar gael, byddwn yn dod i lawr a rhyngweithio gyda'r plant hefyd, fel yna gallwn gysylltu â'r genhedlaeth iau hefyd.”
Gan fod llawer o drigolion yn defnyddio'r Chatty Caffi fel amser i weld ffrindiau a chysylltu ag eraill, mae yna hefyd grŵp arall o wirfoddolwyr wrth waith yn yr un neuadd, gyda'r banc dillad.
Er bod y Chatty Caffi a'r banc dillad yn amlwg ar wahân i'w gilydd, dywedodd Sam sy'n gwirfoddoli gyda'r banc dillad ei fod yn adnodd hanfodol i'r trigolion sy'n dod draw: “Mae pawb yn haeddu bod yn gynnes, yn sych a chael esgidiau a sanau ar eu traed. O ran bod popeth i gyd yma o dan yr un to, mae'n gwneud gwahaniaeth i'r bobl sy'n dod yma, mae'n hygyrch iawn iddyn nhw.
“Does dim ots pwy ydych chi, gallwch ddod i mewn, cael diod gynnes, a chael dillad cynnes braf tra byddwch chi yma hefyd os oes angen.”
Mae'r Chatty Caffi ar agor ar y dydd Iau cyntaf a'r trydydd o bob mis rhwng 12:30pm a 14:30pm yn adeilad CF61 yng nghanol Llanilltud Fawr (Ffordd yr Orsaf, CF61 1ST).
Mae’r hwb 'Mwy na Bwyd' yn digwydd ar y trydydd dydd Iau o'r mis yn ystod yr un cyfnod amser hefyd.