Mis Balchder yn y Fro

Ymunwch gyda GLAM ar gyfer Balchder ym mis Mehefin!

Wrth i ni edrych ymlaen at ddechrau Mis Balchder ym mis Mehefin - mae'n amser i gydnabod, dathlu, a sefyll mewn undod â'r gymuned LHDTC+. 

GLAM-Network-Logo-2024

Mae balchder yn fwy na dathliad; mae'n adlewyrchiad o'r daith barhaus tuag at gydraddoldeb, derbyn, a'r hawl i bawb fyw fel eu hunain dilys heb ofn na gwahaniaethu.

I gychwyn dechrau Mis Balchder yn y Fro, bydd Baner Balchder yn cael ei chodi yn y Swyddfeydd Dinesig ddydd Llun 2il Mehefin am 12:00.

Bydd Maer Cyngor Bro Morgannwg yn codi'r faner a bydd cydweithwyr o’r Rhwydwaith GLAM, staff y cyngor, a chynrychiolwyr Pride y Barri yn ymuno â nhw. Mae grwpiau balchder o bob rhan o Fro Morgannwg hefyd wedi cael gwahoddiad i ymuno â'r dathliadau hefyd.

Mae croeso i bob cydweithiwr i fynychu’r digwydd i godi’r Baner Balchder - mae'n gyfle ystyrlon i ddangos ein cefnogaeth a'n undod.

Bydd rhwydwaith GLAM hefyd yn nodi mis Balchder mewn nifer o ffyrdd drwy gydol mis Mehefin, gan gynnwys:

  • Bore Coffi Rhwydweithio Balchder Cyngor Tref Penarth 31ain Mai (10yb-12yp, West House)
  • Balchder y Barri, Sadwrn 14fed Mehefin (12yp-7yp, Sgwâr y Brenin a Parc Canolog)
  • Pride Cymru, Canol Dinas Caerdydd
  • Gorymdaith Balchder y Bont-faen, 29ain Mehefin  (12yp, Gorsaf Dân y Bont-faen)

Sut alla i gymryd rhan gyda Rhwydwaith GLAM?

Mae GLAM yn rhwydwaith staff o gydweithwyr a chynghreiriaid LHDTC+ sy'n gweithio i gael effaith gadarnhaol i gydweithwyr LHDTC+ yn y gweithle. Nod GLAM yw codi ymwybyddiaeth a gwelededd cyffredinol o'i waith ac mae'n darparu amgylchedd cymdeithasol a chefnogol i bawb. 

Os hoffech ddysgu mwy am Rwydwaith GLAM neu os hoffech ymuno - naill ai fel aelod neu gynghreiriad - cysylltwch â ni drwy glam@valeofglamorgan.gov.uk.