Staffnet+ >
Ymunwch â ni ar gyfer Gwylnos Golau Canhwyllau Diwrnod y Rhuban Gwyn
Ymunwch â ni ar gyfer Gwylnos Golau Canhwyllau Diwrnod y Rhuban Gwyn
Dydd Gwener 21 Tachwedd | 5.30—6.30pm | Y tu allan i'r Swyddfeydd Dinesig, Y Barri
Ymunwch â chydweithwyr ac aelodau'r gymuned wrth i ni ddod at ein gilydd i anrhydeddu a chofio'r rhai yr effeithir arnynt gan drais ar sail rhyw.
Fel rhan o Ddiwrnod y Rhuban Gwyn a'r Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Trais yn Erbyn Menywod, byddwn yn cynnal Gwylnos Golau Canhwyllau y tu allan i'r Swyddfeydd Dinesig i sefyll mewn undod â menywod sy'n cael eu heffeithio gan drais dynion — ac i alw am ddyfodol yn rhydd rhag camdriniaeth.
Y llynedd yn unig, roedd Gwasanaethau Cam-drin Domestig y Fro yn cefnogi dros 1,200 o fenywod sy'n dioddef trais gwrywaidd. Yn anffodus, mae'r nifer hwn yn parhau i godi. Drwy ymuno â ni, rydych chi'n anfon neges bwerus: nad yw goroeswyr ar eu pennau eu hunain, ac na fydd ein cymuned byth yn rhoi'r gorau i ymladd dros newid.
Dewch â channwyll sy'n cael ei bweru gan fatri a gwisgwch yn gynnes ar gyfer y gwylnos awyr agored hon.