Staffnet+ >
Storm Claudia - Timau'r Cyngor yn Cadw'r Fro yn Ddiogel
Storm Claudia: Timau’r Cyngor yn Cadw’r Fro yn Ddiogel
20 Tachwedd 2025
Penwythnos diwethaf, daeth Storm Claudia â glaw trwm a'r perygl o lifogydd i Fro Morgannwg. Diolch i'r meddwl cyflym a'r ymateb proffesiynol gan staff, roedd y Cyngor yn barod iawn i gefnogi ein cymunedau.
Hoffem ddechrau drwy ddweud diolch enfawr i'r holl gydweithwyr am fonitro, cynllunio a sefyll yn barod i ymateb.
Dechreuodd y paratoadau ddydd Iau pan dderbyniodd y Cyngor ddiweddariad gan y Swyddfa Dywydd, a gafodd ei rannu gan dîm Gynllunio Brys y Cyngor gydag adrannau perthnasol. Sbardunodd hyn gyfarfod Grŵp Cydlynu Tactegol aml-asiantaeth gyda phartneriaid allanol, ac yna Grŵp Cydlynu Tactegol mewnol i drafod effeithiau a chamau gweithredu posibl.
Bore dydd Gwener, daeth cyfarfod mewnol arall ynghyd a thîmau Cynllunio Brys, Priffyrdd, Llifogydd, C1V, Glanhau Stryd, Cyfathrebu, a thimau allweddol eraill i sicrhau bod pawb yn barod.
Gwnaed penderfyniad ddydd Gwener i gau Ysgol Gatholig Sant Rhisiart Gwyn yn y Barri yn gynnar oherwydd y perygl llifogydd cynyddol, ac adroddwyd rywfaint o lifogydd lleol wedi hynny ar dir yr ysgol.
Yn dilyn y storm, diolchodd Pennaeth Sant Richard Gwyn David Blackwell i staff y Cyngor am y rhybudd ymlaen llaw am lifogydd posibl, a helpodd i leihau aflonyddwch i fyfyrwyr a fyddai fel arall wedi bod yn teithio yn ystod uchder y storm.
Fe aeth cydweithwyr mewn eiddo uwchben a thu hwnt hefyd nos Wener pan ddechreuodd y maes parcio yng Nghanolfan Hamdden Penarth llifogi.
Ar ôl derbyn galwad yn rhybuddio bod dŵr yn codi'n gyflym a bod defnyddwyr gwasanaeth yn cael anhawster gadael y ganolfan hamdden, cymerodd y Syrfëwr Adeiladu Paul Cook arno ei hun i deithio i lawr i'r safle i glirio'r draeniau gyda rhaw - gan atal llifogydd pellach a allai fod wedi achosi difrod y tu mewn i'r adeilad.
Dros y penwythnos, roedd dim ond llond llaw o ddigwyddiadau llifogi ynysig - gyda chyfanswm o 36 o alwadau yn gysylltiedig â llifogydd.
Diolch byth, dechreuodd lefelau yr Afon Tregatwg - a oedd wedi peri risg i eiddo cyfagos ostwng - ac roedd y rhagolwg yn awgrymu gwella yn y tywydd. Heb unrhyw amodau anffafriol pellach, cafodd ein gweithrediadau ymateb i ddigwyddiadau eu sefyll i lawr, ac ailddechreuwyd gweithdrefnau swyddogion dyletswydd.
Nid oes unrhyw gartrefi wedi cael eu heffeithio gan y storm a dim ond un busnes ym Mhenarth a adroddodd am lifogydd.
Caiff y digwyddiadau hyn eu hadolygu er mwyn dysgu unrhyw wersi a helpu i gryfhau ein hymateb ar gyfer y dyfodol.
Wrth annerch cydweithwyr yn dilyn y storm, dywedodd y Prif Weithredwr Rob Thomas: “Rwyf am ddiolch i bawb a chwaraeodd ran yn ein hymateb i Storm Claudia. Fe wnaeth eich proffesiynoldeb a'ch meddwl cyflym helpu i gadw ein cymunedau'n ddiogel. Er bod effaith y storm yn gyfyngedig, diolch byth, roedd paratoi ar gyfer y sefyllfa waethaf yn hanfodol.
“Diolch arbennig i Debbie Spargo a Carl Culverwell am eu gwaith o fewn y tîm Ymateb Brys. Roedd eu hymdrechion - ochr yn ochr â cydweithwyr eraill ar draws y Cyngor - yn sicrhau ein bod yn barod ar gyfer beth bynnag a ddaeth â'r storm. Wrth gwrs mae yna lawer o rai eraill a gynigiodd eu hamser a'u hadnoddau yn anhunanol i helpu yn ystod y storm - ond dyw eich gwaith caled heb fynd yn ddisylw. Diolch am galon a chi gyd”.