Diwrnod Cofio Traws: Sesiwn Ymwybyddiaeth Ar-lein

Yn dilyn Wythnos Ymwybyddiaeth Traws eleni (13—19 Tachwedd) a Diwrnod Cofio Traws (20 Tachwedd), mae Cyngor Caerdydd a Rhwydweithiau Gweithwyr LGBTQ+ Bro Morgannwg yn parhau â'r sgwrs drwy gynnal sesiwn ymwybyddiaeth ar-lein.

Ymunwch â'r digwyddiad ar-lein ddydd Iau 27 Tachwedd rhwng 11.30am a 12.30pm am sesiwn graff yn cynnwys siaradwyr o'r gymuned draws. Byddant yn rhannu eu profiadau personol ac yn myfyrio ar pam mae coffáu Diwrnod Cofio Traws (TDoR) yn parhau i fod mor bwysig.

Cliciwch y ddolen isod i ymuno:

Ymunwch â'r cyfarfod nawr

Rhif y cyfarfod: 341 168 130 461 97

Cod Cyfrinair: UK9AF2ia