
Cyflwyno Cwmpawd Teuluol y Fro
Mae cydweithwyr yn y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi bod yn brysur yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y Cyngor a'n partneriaid allanol i ddylunio drws ffrynt newydd i deuluoedd ym Mro Morgannwg gael gafael ar wybodaeth, cyngor, cefnogaeth ac amddiffyniad.
Rydym yn gyffrous i rannu y byddwn yn lansio Cwmpawd Teulu y Fro o ddydd Llun 3 Tachwedd — drws ffrynt sengl newydd i gael mynediad at wasanaethau gan gynnwys:
- Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
- Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf
- Tîm o Amgylch y Teulu
- Gwasanaeth Rhianta'r Fro
- Tîm Derbyn
Mae Cwmpawd Teulu'r Fro wedi'i gynllunio i ddarparu'r gefnogaeth gywir ar yr adeg iawn, gan helpu teuluoedd i gael yr help sydd ei angen arnynt yn gynt ac yn fwy effeithiol. Mae'n dod â mynediad at y gwasanaethau uchod mewn un lle, gan wella cydlynu a chanlyniadau i blant, pobl ifanc, rhieni, gofalwyr a'u teuluoedd.
Beth sy'n newid?
Bydd gennym un pwynt cyswllt ar gyfer cael mynediad i'n gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd, Cymorth Cynnar a Derbyn:
Pob un yn lansio ddydd Llun 3 Tachwedd.
Bydd y timau y tu ôl i'r llenni yn aros yn eu lle ac mae ganddynt swyddogaethau penodol.
Bydd gennym dîm Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd o hyd sy'n darparu gwybodaeth i deuluoedd ynglŷn â'r Cynnig Gofal Plant i Gymru, y Mynegai i deuluoedd â phlant ag anghenion ychwanegol a chymorth i ddarparwyr gofal plant.
Bydd Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf, y Gwasanaeth Rhianta a'r Tîm o Amgylch y Teulu yn parhau i gefnogi teuluoedd sydd ei angen.
Ac yn olaf, bydd y Tîm Derbyn yn parhau i amddiffyn plant sy'n agored i niwed neu mewn perygl.
I gadw i fyny â'r holl newyddion a diweddariadau diweddaraf, dilynwch @ValeFIS ar Facebook, a fydd yn fuan yn @ValeFamilyCompass