Staffnet+ >
Miles Punter yn ymddeol ar ôl 43 mlynedd o wasanaeth
Miles Punter yn ymddeol ar ôl 43 mlynedd o wasanaeth
06 Hydref 2025
Mae Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Thai Miles Punter yn ymddeol yr wythnos hon ar ôl 43 mlynedd o wasanaeth ymroddedig.
Mae gan bob taith fawr ddechrau diymhongar, ac nid yw taith Miles Punter yn eithriad.
Dechreuodd Miles fel prentis ym mis Medi 1982, gan astudio Astudiaethau Crefft Cerbydau Modur yng Ngholeg Addysg Bellach y Barri. Ond nid dyma'r llwybr yr oedd Miles wedi'i ragweld drosto'i hun yn wreiddiol: “Roeddwn i mewn gwirionedd eisiau bod yn swyddog heddlu, dyna oedd fy nyhead cyntaf. Roedd fy mrawd yn swyddog heddlu, dyna beth roeddwn i eisiau ei wneud.
“Roeddwn i yn y Cadetiaid ac es i lawr i Ben-y-bont ar Ogwr un prynhawn ac fe wnaethon nhw arholiad feddygol ffug gyda fi ac fe wnes i fethu oherwydd fy mod i'n lliw-ddall. Felly, yn anffodus, nid dyna oedd yr yrfa i mi.
“Roedd gen i wir ddiddordeb mewn beiciau modur a sgwteri ar y pryd, ac rwy'n credu bod fy nhad wedi cael llond bol o fi'n cicio o gwmpas y tŷ.
“Dywedais fy mod i eisiau mynd yn ôl i'r ysgol a gwneud fy Safon Uwch, a dywedodd fy nhad bod fi angen fynd i iard y cyngor ar Ffordd Cwrt a gofyn am foi o'r enw Roy Dutton gan fod ganddo rywfaint o waith i mi. Felly dyma beth wnes i.
“Fe wnes i droi i fyny yn iard y cyngor ac roedd cannoedd o fechgyn yno. Roedd arholiadau mynediad ar gyfer disgyblaethau amrywiol fel plymio, gwaith trydanol - ac roeddwn i'n meddwl nad oeddwn am wneud dim o hynny - yr unig beth oedd gen i ddiddordeb o bell ynddo oedd gosod beiciau modur, felly ymunais â'r ciw ar gyfer yr arholiadau prentisiaeth cerbydau modur.
“Eisteddais i lawr, gwneud prawf, plygu darn o wifren i siâp, ateb rhai cwestiynau cwis, yna pan es i adref cefais alwad ffôn fy mod wedi cael fy newis fel prentis i'r cyngor.”
Er gwaethaf ei amheuon cychwynnol, nid oedd yn hir cyn i Miles ymgartrefu i'r hyn fyddai'n ddechrau gyrfa hir gyda'r Cyngor: “Es i gwrdd â Roy ar fy niwrnod cyntaf ac roeddwn i wrth fy modd yn llwyr, roeddwn wrth fy modd o'r funud yr agorais y drws.
“Fy disgyblaeth fawr yw trwsio pethau, felly roeddwn yn fy elfen. Mae'n rhywbeth a ddaeth mor naturiol i mi.
“Ers pan oeddwn i'n blentyn, rydw i wedi bod yn trwsio pethau. Roeddwn i'n arfer cynhyrfu fy nheulu trwy dynnu radios a pheiriannau golchi yn ddarnau yn 14 oed.
“Yn aml nid oedden nhw'n cael eu torri. Byddwn i'n tynnu nhw yn ddarnau dim ond i weld sut roedden nhw'n gweithio ac weithiau gallwn eu rhoi yn ôl at ei gilydd eto.
Ychwanegodd: “Roedd gen i feic modur pan ddechreuais i weithio ar gyngor a oedd bob amser mewn darnau ac yn torri lawr, felly roedd dysgu sut i'w drwsio'n iawn yn gyfle da i mi.
“Nid fi oedd y prentis mwyaf dibynadwy maen nhw wedi'i gael erioed chwaith. Roedden ni'n cael talu'n wythnosol ar ddydd Iau nôl bryd hynny ac felly fe wnes i golli'r rhan fwyaf o ddydd Gwener oherwydd roeddwn i wedi bod allan gyda'r bechgyn ac roeddwn i bob amser yn cael fy llusgo i'r swyddfa.”
Cwblhaodd ei brentisiaeth ym mis Medi 1986 a dechreuodd fel Gosodwr Cerbydau Modur ar £2.76 yr awr — a gallech hyd yn oed ddewis cael eich talu gyda Siec bryd hynny!
Ym mis Awst 1989, dyrchafwyd Miles i rôl Arolygydd o fewn yr Adran Gwasanaethau Peirianneg ac Adeiladu.
Gan barhau â'i ddatblygiad proffesiynol, cwblhaodd ei HNC mewn Rheoli Trafnidiaeth yn 1994 ac wedi hynny dyfarnwyd iddo aelodaeth o'r Sefydliad Trafnidiaeth Siartredig.
Erbyn 1995, penodwyd Miles yn Rheolwr Fflyd ac fel rhan o ailstrwythuro yn 1997, cafodd ei ddyrchafu i swydd Rheolwr Tiroedd a Fflyd.
Yn 1999, ymgymerodd â dyletswyddau ychwanegol yn goruchwylio'r adran Cynnal a Chadw Adeiladau a Cherbydau o fewn y Sefydliad Gwasanaethau Uniongyrchol (DSO).
Ym mis Ebrill 2000, daeth Miles yn Bennaeth Gwasanaeth (Adeiladu) yn ogystal â dod yn Bennaeth Gwasanaethau Gweladwy ym mis Hydref 2002, ac yna ym mis Mehefin 2012 daeth yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Gweladwy a Thai.
Yn olaf, yn 2015, penodwyd Miles i swydd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Thai.
Wrth iddo annerch cyfarfod o'r Cyngor Llawn am y tro olaf cyn dechrau ar ei ymddeoliad, rhannodd Miles yr adlewyrchiad hwn: “Rhaid i mi ddweud, nid yn aml iawn rydych chi'n dechrau mewn sefydliad fel person 17 oed, yn dod o Gibbonsdown, ond os ydych chi'n gweithio'n galed ac yn dilyn eich astudiaethau, gallwch gyrraedd y brig - fel rwy'n credu fy mod i wedi ac rwy'n hynod falch o fod yn y sefyllfa rydw i ynddi.
“Am 43 mlynedd, rwyf wedi gweithio i lawer o weinyddiaethau, ac rydyn ni wedi cael rhywfaint o sefyllfaoedd liwgar - gadewch i ni ddweud hynny - ond maen nhw i gyd wedi bod yn brofiadau sy’n adeiladu’ch cymeriad yn sicr. Dwi wedi cael cyfleoedd dros y blynyddoedd i weithio i gynghorau eraill, ond mae 'na reswm mawr pam nad ydw i wedi gan mai dyma'r cyngor gorau yng Nghymru o bell ffordd, os nad y DU, ac mae'n parhau felly.”
Wrth i Miles ymddeol ar ôl 43 mlynedd o wasanaeth, rydym yn dathlu ei etifeddiaeth ac edrychwn ymlaen at weld sut mae'n parhau i wneud gwahaniaeth yn y dyfodol. Diolch Miles ac ymddeoliad hapus!