Llawlyfr TAW Newydd Ar Gael
Mae Llawlyfr TAW newydd wedi'i gyhoeddi i helpu staff i ddeall sut mae TAW yn cael ei reoli ar draws y Cyngor.
Mae'r llawlyfr yn rhoi arweiniad ar:
- sut mae TAW yn berthnasol i'r gwasanaethau rydym yn eu darparu
- sut rydym yn adennill TAW ar bryniannau
- sut rydym yn sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau CThEM
Dylai pob aelod o staff sy'n ymwneud â chodi anfonebau, prosesu taliadau, prynu nwyddau neu wasanaethau, neu reoli cyllidebau ymgyfarwyddo â'r adrannau perthnasol. Mae dilyn y llawlyfr yn ein helpu i osgoi gwallau costus, gwneud y mwyaf o adennill TAW, a chyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol.
Cyfeiriwch at y Llawlyfr TAW pryd bynnag y byddwch yn ansicr ynghylch sut mae TAW yn berthnasol i'ch gwaith. Os oes angen cyngor pellach arnoch, cysylltwch â Central Accountancy i gael cymorth.
Llawlyfr TAW