Staffnet+ >
Amser segur Oracle Fusion - dydd Gwener 24 Hydref
Amser segur Oracle Fusion - dydd Gwener 24 Hydref
Ni fydd Oracle Fusion ar gael ar ôl 10am ddydd Gwener 24 Hydref tan ddydd Llun 27 Hydref tra bydd newidiadau cefndir hanfodol yn cael eu gosod. Bydd y system ar gael eto yn ôl yr arfer fore Llun.
Mae angen yr amser segur i gefnogi diweddariadau i gaffael yn Oracle. Ni fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar y broses gaffael ei hun, ond bydd defnyddwyr yn sylwi ar ddyluniad wedi'i adnewyddu a mwy hawdd ei ddefnyddio pan fyddant yn mewngofnodi ddydd Llun. Mae'r rhyngwyneb wedi'i brofi gan grŵp o ddefnyddwyr a gytunodd ei fod yn syml ac yn hawdd i'w ddefnyddio.
Bydd canllawiau ac adnoddau ar gael yr wythnos nesaf i'ch helpu i ddod yn gyfarwydd â'r newidiadau, ond rydym yn hyderus y bydd y rhan fwyaf o ddefnyddwyr yn eu gweld yn reddfol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Thîm Fusion Oracle am gefnogaeth: fusion@valeofglamorgan.gov.uk