Cynhadledd Diogelu Flynyddol CVSB — Archebwch Eich Lle

Fel rhan o Wythnos Diogelu Genedlaethol 2025, mae Bwrdd Diogelu Caerdydd a'r Fro yn eich gwahodd i ymuno â'r Gynhadledd Diogelu Flynyddol eleni ddydd Gwener 14eg Tachwedd 2025, 9am—4pm, yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Thema eleni yw Cam-drin Plant yn Rhywiol (CSA). Bydd y diwrnod yn cynnwys ystod o gyflwyniadau arbenigol sy'n archwilio gwahanol agweddau ar CSA, ynghyd â gweithdai rhyngweithiol yn y prynhawn i gefnogi dysgu, myfyrio, ac arferion gorau.

Mae presenoldeb yn rhad ac am ddim — gellir archebu lleoedd nawr drwy Eventbrite.