Gwaith Gwella Ysgolion

04 Medi 2025

Romilly Primary SchoolMae disgyblion ysgol ledled y Sir wedi dychwelyd i gyfleusterau sydd wedi'u huwchraddio ac adeiladau wedi'u hadnewyddu yn dilyn gwaith a wnaed gan Dîm Eiddo'r Cyngor.

Gyda gwyliau'r haf yn dod i ben, mae plant a staff yn ôl yn yr ystafell ddosbarth ar gyfer dechrau tymor newydd.

Tra roedden nhw i ffwrdd, roedd cydweithwyr Eiddo yn brysur yn cwblhau ystod o welliannau, sy'n golygu bod gan y Fro safleoedd ysgol hyd yn oed gwell fyth erbyn hyn.

Mae ystafell ddosbarth ychwanegol yn cael ei hadeiladu yn Ysgol Gynradd Wick, gyda'r ysgol hefyd yn cael ailweirio trydanol ac adnewyddu mewnol.

Mae gwaith ailweirio hefyd wedi digwydd yn Ysgol Gynradd Romilly ac Ysgol Sant Curig, tra bod wal gynnal wedi'i hadfer yn Ysgol Gynradd Cadoxton.

Mae gwaith atgyweirio draenio wedi eu cwblhau yn Oakfield a gwaith adnewyddu toiledau a gwaith atgyweirio to yng Ngholcot.
Mae gwaith to hefyd wedi digwydd ym Mhen y Garth, Stanwell a St Joseph's.

Mae larwm tân newydd wedi'i osod yn Ysgol Gynradd Sili, disodliwyd y boeleri yn Llandochau a'r simneiau wedi'u hatgyweirio yn Gladstone.
Mae amryw agweddau ar waith adnewyddu hefyd wedi cael eu cynnal yn Ysgol Gynradd Victoria.

Meddai Lorna Cross, Rheolwr Gweithredol Eiddo: “Mae ein tîm wedi bod yn brysur iawn dros gyfnod yr haf, gan gael adeiladau yn barod ar gyfer y flwyddyn ysgol newydd.

“Mae amrywiaeth eang o waith wedi digwydd i greu amgylcheddau gwell fyth ar gyfer dysgu, gan roi'r llwyfan gorau un ar gyfer llwyddiant i ddisgyblion.

“Hoffwn ddiolch iddyn nhw am yr ymdrechion hynny a hefyd i'r ysgolion am eu cydweithrediad a'u cefnogaeth tra bod y gwelliannau amrywiol wedi bod yn digwydd.”

Bu buddsoddiad sylweddol mewn cyfleusterau ysgolion ledled y Sir yn ystod y blynyddoedd diwethaf fel rhan o raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu'r Cyngor, gyda sawl prosiect ar y gweill ar hyn o bryd neu sydd i fod i gychwyn yn fuan.

Mae'r gwaith adeiladu wedi ailgychwyn yn Ysgol Llyn Derw, sy'n ehangu o Ysgol y Deri, a bydd yn darparu ar gyfer disgyblion chweched dosbarth ag anghenion addysgol arbennig.

Bydd cam cyntaf y gwaith yn St Richard Gwyn yn cychwyn cyn bo hir, tra bod cais cynllunio yn cael ei baratoi ar gyfer datblygu Ysgol Iolo Morganwg.