Timau'r Cyngor yn Dod Ynghyd i Ddathlu Diwrnod Chwarae Bro Morgannwg

10 Awst 2026

Dydd Mercher 5 Awst, daeth cydweithwyr o bob rhan o'r Cyngor ynghyd yng Ngerddi Gladstone i ddathlu Diwrnod Chwarae 2026, gan ymuno â Thîm Chwarae Bro Morgannwg ar gyfer digwyddiad gwych yn llawn chwarae a chreadigrwydd.

Croesawodd y diwrnod deuluoedd o bob cwr o'r Fro i fwynhau amrywiaeth eang o weithgareddau am ddim, gan arddangos y rôl bwysig y mae chwarae yn ei chwarae wrth gefnogi datblygiad, lles a hapusrwydd plant.

Mae gan bob plentyn yr hawl i chwarae, ac drwy gydol y flwyddyn mae ein Tîm Chwarae ymroddedig yn gweithio'n galed i greu cyfleoedd diogel, croesawgar a chynhwysol i blant a phobl ifanc ledled Bro Morgannwg.

Mae digwyddiadau fel Diwrnod Chwarae yn tynnu sylw at effaith gadarnhaol eu gwaith ac at werth darparu mannau lle gall plant archwilio, dychmygu, dysgu a chysylltu drwy chwarae.

Roedd y digwyddiad hefyd yn dangos cryfder cydweithio ar draws y Cyngor, gyda chydweithwyr o nifer o wasanaethau yn cefnogi'r diwrnod -  gan gynnwys Dysgu Cymunedol i Oedolion, Llyfrgelloedd y Fro, Gwasanaeth Ieuenctid y Fro, Cwmpawd Teulu y Fro, Cymunedau am Waith, Teithio Llesol a'r Tîm Diogelwch Cymunedol - a oedd oll yn helpu i ymgysylltu â theuluoedd a hyrwyddo'r ystod eang o gymorth sydd ar gael i gymunedau lleol.

 

Beth yw Diwrnod Chwarae??

Diwrnod Chwarae yw'r diwrnod cenedlaethol sy'n dathlu chwarae, ac fe'i cynhelir yn draddodiadol ar y dydd Mercher cyntaf ym mis Awst. Dyma ddathliad mwyaf y DU o chwarae plant, ac mae'n codi ymwybyddiaeth o'r rôl hanfodol y mae chwarae yn ei chwarae ym mywydau plant.

Caiff ymgyrch Diwrnod Chwarae ei chydlynnu mewn partneriaeth â Chwarae Cymru, Play England, Play Scotland a PlayBoard Northern Ireland. Mae'r ymgyrch yn hyrwyddo hawl pob plentyn i chwarae, gan annog cymunedau ar yr un pryd i greu cyfleoedd i blant a phobl ifanc fwynhau chwarae egnïol, dychmygus a chynhwysol.

Dathlu Ledled y DU

Bob blwyddyn, cynhelir cannoedd o ddigwyddiadau Diwrnod Chwarae ledled y DU, gan ddod â phlant, pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau ynghyd.

Mae'r dathliadau'n amrywio o wyliau mewn parciau a phartïon stryd i anturiaethau mewn coetiroedd, gweithgareddau ar y traeth a digwyddiadau cymunedol o bob maint. Boed yn fawr neu'n fach, mae pob digwyddiad yn adlewyrchu anghenion a chymeriad ei gymuned leol, gan dynnu sylw ar yr un pryd at bwysigrwydd rhoi'r amser, y lle a'r rhyddid i blant chwarae.

Diolch yn fawr iawn i bawb a helpodd i wneud y digwyddiad yn gymaint o lwyddiant, yn ogystal ag i'r teuluoedd niferus a ddaeth draw i ddathlu Diwrnod Chwarae gyda ni!