Doliau Therapi Cartrefi Gofal ar Newyddion ITV Cymru

09 Chwefror 2026

Mae saith dol therapi a roddwyd gan undeb GMB i gartrefi gofal yn y Fro wedi cael sylw gan raglan newyddion ITV Cymru.

care home filming with LauraRhoddwyd y doliau i drigolion cartrefi gofal Ty Dewi Sant, Cartref Porthceri, Southway a Thŷ Dyfan ac maent yn darparu nifer o fuddion therapiwtig i drigolion, yn enwedig y rhai sy'n byw gyda dementia.

Ymwelodd gohebydd ITV Cymru, Megan Boot, â Chartref Porthceri yn ddiweddar i ffilmio eitem newyddion am y doliau, a siaradodd â thrigolion a staff am eu profiadau.

Yn ystod cyfweliad ar gamera, dywedodd Rheolwr Cartref Porthceri Laura Davies: “Mewn gwirionedd mae cymaint o fanteision i ddefnyddio'r doliau. Yng nghamau cynharach dementia, gallant fod yn gymdeithasol iawn, maent yn annog sgwrs ac yn dod ag atgofion yn ôl. Mae pobl yn dechrau siarad am eu plant eu hunain, yr hyn a wnaethant pan oeddent yn iau, diwrnodau teulu - pob math o bethau, mae'n wir yn helpu gyda rhyngweithio cymdeithasol.

“Wrth i ddementia fynd yn ei flaen, gall y doliau ddod yn ffynhonnell o gysur, yn enwedig i bobl a allai gael trafferth mynegi sut maen nhw'n teimlo. Gall cael rhywbeth i'w ddal fod yn galonogol iawn. Mae hefyd yn rhoi ymdeimlad o bwrpas i bobl - maen nhw'n teimlo fel eu bod yn gofalu am rywbeth ac yn meithrin rhywbeth, sy'n gallu bod yn ystyrlon iawn. Gall y teimlad hwnnw helpu i leihau pryder a chefnogi iechyd meddwl.”

Ychwanegodd Laura: “Mae manteision ar bob cam o ddementia, ac nid dim ond ar gyfer dementia chwaith. Nid oes gan rai o'n trigolion ddiagnosis, ond maen nhw'n dal i fwynhau'r profiad.”

Cadwch eich llygaid allan am yr adroddiad newyddion yn llawn ar ITV Cymru yn ystod yr wythnos hon.