Gŵyl Gymreig i Ddathlu'r Gymraeg a Diwylliant yn y Bont-faen

23 Chwefror 2026

Bydd dathliad bywiog o'r iaith a diwylliant Cymraeg yn cael ei gynnal yn Neuadd y Dref y Bont-faen yn ddiweddarach yr wythnos hon.

 

Gwyl Gymreig Poster CymraegCynhelir Gŵyl Gymreig ddydd Iau 26 Chwefror 2026 o 12yp tan 4yp, gan ddod â theuluoedd, busnesau lleol a sefydliadau cymunedol ynghyd ar gyfer prynhawn o gerddoriaeth, dysgu a dathlu.

Mae'r digwyddiad wedi cael ei gydlynu drwy'r rhaglen manteision cymunedol sy'n gysylltiedig ag adeiladu adeilad newydd Ysgol Iolo Morganwg yn y Bont-faen.

Ei nod yw hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg yn y Fro Gorllewinol, dathlu diwylliant Cymru, a chryfhau cysylltiadau â busnesau lleol yn y Bont-faen.

Wedi'i gynllunio i greu awyrgylch bywiog yn arddull marchnadoedd, bydd y digwyddiad yn cynnwys stondinau gan fusnesau lleol y Bont-faen a chynrychiolwyr o farchnad ffermwyr boblogaidd y dref.

Bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau amrywiaeth eang o nwyddau a gynhyrchir yn lleol, pasteiod a theisennau, ffrwythau a llysiau, siders crefft, cacennau, ategolion ysgol, anrhegion, detholiad o gawsiau a llyfrau Cymraeg.

Bydd y rhaglen ar gyfer y diwrnod yn cynnwys:

  • Perfformiadau gan dri chôr ysgol lleol
  • Perfformiad cerddorol arbennig gan Bethany Powell o Y Llais Cymru
  • Sesiwn grŵp Ti a Fi
  • Sesiwn Amser Stori ar gyfer plant bach a rhieni
  • Gweithgareddau celf a chrefft i blant
  • Cwis bwyd Cymreig gan Loving Welsh Food — gwobr taith bwyd i'r enillydd
  • Gwybodaeth dysgu oedolion, gan gynnwys cyfleoedd i ddysgu Cymraeg
  • Sesiwn holi ac ateb yn archwilio manteision addysg cyfrwng Cymraeg
  • Gwybodaeth am gyfleoedd gyrfa Gymraeg y GIG
  • Presenoldeb gan Kier Construction, sy'n arwain datblygiad yr ysgol newydd ar hyn o bryd
  • Raffl am ddim i ennill hamper o nwyddau a chynnyrch o'r ŵyl

Mae'r deunydd hyrwyddo ar gyfer y digwyddiad wedi'i ddylunio'n arbennig gan ddisgybl o Ysgol Iolo Morganwg, gan dynnu sylw at rôl ganolog yr ysgol yn ddathliadau'r diwrnod.