Partneriaeth ITEC yn mynd o Nerth i Nerth

23 Chwefror 2026

Mae ein partneriaeth gydag ITEC yn parhau i fynd o nerth i nerth, a amlygwyd yn fwyaf diweddar yng Ngwobrau ITEC JGW+ sy'n dathlu cyflawniadau rhagorol dysgwyr ledled Cymru. 

ITEC AwardsThe Roedd y digwyddiad yn arddangos teithiau ysbrydoledig i ddysgwyr ac effaith drawsnewidiol lleoliadau a chyfleoedd hyfforddi o ansawdd uchel.

Mae ITEC yn cefnogi pobl ifanc ac oedolion ledled Cymru i ddatblygu sgiliau, ennill cymwysterau a symud ymlaen i gyflogaeth. 

Drwy raglenni sy'n canolbwyntio ar gyflogadwyedd, gwasanaeth cwsmeriaid, TG a Sgiliau Hanfodol, mae ITEC yn gweithio gyda chyflogwyr lleol fel y Cyngor i ddarparu lleoliadau gwaith ystyrlon sy'n magu hyder ac yn creu llwybrau gyrfa go iawn i ddarparu cyfleoedd ystyrlon i bobl ifanc yn lleol nad ydynt fel arall efallai yn ymwneud â chyflogaeth neu hyfforddiant.

Roeddem yn arbennig o falch o weld dau brentis ITEC y Fro yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau ITEC. Enwebwyd Johnson Warren ar gyfer Gwobr Arloesi, sy'n dathlu dysgwyr sy'n torri tir newydd gydag atebion creadigol, tra cafodd Aleena Anwar ei henwi yn ail ar gyfer Gwobr Barod i'r Dyfodol, gan gydnabod dysgwyr sy'n dangos menter, gallu i addasu ac ymrwymiad clir i adeiladu eu dyfodol. 

Mae eu henwebiadau yn adlewyrchu nid yn unig eu hymroddiad unigol, ond hefyd gryfder y gwaith partneriaeth a gefnogodd eu datblygiad.

Dechreuodd partneriaeth y Cyngor gydag ITEC drwy gydweithrediad agos rhwng tîm Cyflogadwyedd ITEC a'n cydweithwyr AD yn y Swyddfeydd Dinesig. Profodd yr hyn a ddechreuodd gyda dau berson ifanc yn ymuno â'r tîm AD yn gyflym i fod yn brofiad cadarnhaol a chynhyrchiol i bawb oedd yn gysylltiedig.

Rhoddwyd cyfrifoldeb gwirioneddol i'r dysgwyr a'r cyfle i gyfrannu at brosesau gweinyddol byw, tra bod timau yn elwa o gapasiti ychwanegol a safbwyntiau ffres.

Yn dilyn llwyddiant y lleoliadau cychwynnol hyn, ehangodd y bartneriaeth yn organig. Gyda chefnogaeth gan reolwyr ar draws y Cyngor, agorwyd cyfleoedd ym maes Gwastraff ac Ailgylchu, Parciau a Gerddi, Llyfrgelloedd a gwasanaethau rheng flaen eraill. Rydym bellach yn cynnal llond llaw o ddysgwyr ITEC ar draws sawl adran, ac mae diddordeb mewn cynnig lleoliadau pellach yn parhau i dyfu.

Rhannodd Lilly, dysgwr presennol ITEC - a ddechreuodd ei thaith gyda thîm Cylch Bywyd y Cyngor ac sydd bellach wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr yn C1V ers tri mis - ei phrofiad o weithio ar draws y cyngor, gan ddweud: “Mae'r tîm yn y Fro mor gefnogol a charedig. Dwi ddim yn siŵr eto pa lwybr gyrfa rydw i eisiau ei ddilyn, ond rwyf wedi gallu gweithio ar draws sawl adran, ac maen nhw wedi fy nghefnogi drwy unrhyw bryderon oedd gen i.” 

Ychwanegodd: “Rydw i nawr yn trin ymholiadau gwasanaeth cwsmeriaid gan y cyhoedd, rhywbeth doeddwn i erioed wedi dychmygu y byddai gen i'r hyder i'w wneud.”

Mae mentoriaid y Cyngor yn gweithio'n agos gyda dysgwyr i fagu hyder, deall y gweithle a meithrin sgiliau ymarferol, tra bod ITEC yn sicrhau bod dysgwyr yn barod i'r gwaith ac yn parhau i gyflawni cymwysterau cydnabyddedig ochr yn ochr â'u lleoliadau. Mae'r dull cydweithredol hwn gydag ITEC yn sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cyfateb yn dda â rolau a'u cefnogi drwy gydol eu taith.

Dim ond un o nifer o straeon llwyddiant yw taith ITEC Aleena Anwar gyda'r Cyngor.

Aleena AnwarGan ymuno â'r Fro heb unrhyw brofiad blaenorol yn y gweithle, dechreuodd Aleena ei phrofiad gwaith mewn Adnoddau Dynol lle tyfodd mewn hyder yn gyflym. Cefnogodd ddogfennaeth brawf a disgyblu, paratoi gohebiaeth, a datblygodd ddealltwriaeth gref o gyfrinachedd a chadw cofnodion cywir. 

Yn ddiweddarach symudodd i dîm Cylch Bywyd, lle bu'n cynorthwyo gyda phostiadau swyddi, gwiriadau Hawl i Weithio a DBS, a gweinyddu recriwtio, gan gael mewnwelediad gwerthfawr ar brosesau ymuno a chydymffurfio wrth feithrin ei sgiliau trefnu a'i hyder mewn cyfarfodydd.

Yn ystod ei lleoliad, daeth Aleena yn fwyfwy rhagweithiol a hunan-sicr, hyd yn oed yn cefnogi dysgwyr eraill ac arddangos sgiliau arwain. Ehangodd cyfnod byr yng nghanolfan alwadau C1V ei phrofiad o wasanaeth cwsmeriaid.

Ers hynny mae Aleena wedi sicrhau rôl Gwasanaeth Cwsmeriaid gydag ITEC, lle mae'n parhau i gymhwyso'r sgiliau a ddatblygwyd yn ystod ei chyfnod gyda ni.

Wrth siarad am ei phrofiadau yn ystod ei lleoliad, dywedodd Aleena: “Roeddwn wrth fy modd yn gweithio yn y Cyngor. Roedd pawb yn gefnogol ac yn fy helpu i wireddu fy mhotensial, hyd yn oed pan oeddwn i'n cael trafferth ei weld fy hun. Gadawais yr ysgol gyda graddau gwael, ond roedd cyfleoedd o hyd i gael profiad gwaith a chael swydd. Roeddwn i bob amser eisiau swydd, ac erbyn hyn rwyf wedi ei chyflawni. Rwy'n gwneud rhywbeth rydw i'n dda ynddo, ac ni fyddwn wedi cyflawni hyn heb y cydweithwyr gwych yn y Cyngor ac yn ITEC.”

Hefyd, heriodd gamsyniadau cyffredin ynglŷn â gweithio mewn llywodraeth leol: “Mae 'na hen arfer o ddweud bod y Cyngor yn rhy corfforaethol a ‘stuffy’. Ond roedd hi mor hyfryd — mae'r bobl yn gynhwysol, yn gyfeillgar, ac yn wirioneddol eisiau eich helpu a'ch cefnogi chi. Mae pawb sydd wedi bod ar leoliad yn y cyngor wedi cael profiad gwych, ac nid yw hynny'n gyd-ddigwyddiad.”

Mae llwyddiannau ein prentisiaid ITEC yn tanlinellu'r hyn a welwn bob dydd ar draws ein gwasanaethau — sef pan roddir cyfleoedd ystyrlon i bobl ifanc, mentora cryf a'r cyfle i gymryd cyfrifoldeb, maent yn ffynnu.