Staffnet+ >
Anrhydedd MBE i Bennaeth Gwasanaethau Oedolion
Anrhydedd MBE i Bennaeth Gwasanaethau Oedolion
05 Ionawr 2026
Dyfarnwyd MBE i Jason Bennett, Pennaeth Gwasanaethau Oedolion Cyngor Bro Morgannwg am ei wasanaethau i Ofal Cymdeithasol fel rhan o Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin 2026.
Ar ôl dysgu am ei wobr, dywedodd Jason: “Mae’n anrhydedd llwyr i gael fy enwebu am Anrhydedd Blwyddyn Newydd ac i fod yn derbyn MBE.
“Mae degau o filoedd o bobl yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru ac rwy'n gobeithio bod y wobr yn cael ei hystyried nid fel cyflawniad personol ond fel un sy'n cydnabod y gwerth a'r cyfraniad y mae gofal cymdeithasol yn ei wneud yn ein cymdeithas a gweithwyr ymroddedig sy'n mynd uwchlaw a thu hwnt bob dydd.”
Ychwanegodd: “Mae fy ngyrfa wedi bod yn un o gyfleoedd anhygoel a dwi wedi cael y fraint o gwrdd â phobl ysbrydoledig ar bob cam o fy nhaith. Fy mhrofiad cyntaf oedd fel arddegwr pan ofynnodd fy chwaer, person ysbrydoledig yn ei hawl ei hun i mi ‘helpu am ychydig ddyddiau’ mewn cynllun chwarae haf gydag elusen Barnardo’s ar gyfer plant ag anableddau dysgu. Daeth yr ychydig ddyddiau yn bedwar wythnos, ac yna pedair blynedd ac roedd yn ddechrau gyrfa gydol oes mewn gofal cymdeithasol.
“Yn 18 oed dechreuais weithio ym maes Llywodraeth Leol, penderfyniad sydd wedi rhoi cymaint o gyfleoedd i mi a byddaf bob amser yn ddiolchgar i'r bobl a anogodd, perswadiodd ac yn achlysurol yn rhoi nwyth angenrheidiol i mi ddatblygu fy ngyrfa.
“Roedd y cyfleoedd hyn yn cynnwys cael cymorth i ymgymryd â fy hyfforddiant proffesiynol fel Therapydd Galwedigaethol, ac yn y blynyddoedd dilynol i ymgymryd ag ystod eang o gyrsiau rheoli ac arweinyddiaeth, gan ddatblygu fy arddull arwain gan fy ngalluogi i symud fy ngyrfa ymlaen trwy amrywiaeth o rolau i'r swydd rwy'n ei dal heddiw fel Pennaeth Gwasanaeth.
“Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi rhoi cyfle arall i mi fel arweinydd ADSS Cymru ar gyfer Gwasanaethau Oedolion yng Nghymru, rôl arall nad oeddwn wedi dychmygu ei gwneud, gan ei fod yn golygu dilyn mewn rhai traed mawr iawn, a gweithio'n agos gyda Chyfarwyddwyr a Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, dwi wedi mwynhau'r rôl a gobeithio fy mod wedi cael effaith gadarnhaol yn ystod y cyfnod hwn, ac wedi llwyddo i hyrwyddo Gofal Cymdeithasol i Oedolion a'r gwaith anhygoel sy'n digwydd ar draws y sector.
“Os yw cael yr Anrhydedd yn annog pobl eraill i ystyried gyrfa ym maes gofal cymdeithasol yna byddaf yn falch iawn o fod wedi ei derbyn.”
Yn ei longyfarchiadau i Jason, dywedodd y Prif Weithredwr Rob Thomas: “Rydw i wrth fy modd bod cyfraniad eithriadol Jason i ofal cymdeithasol wedi cael ei gydnabod yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd. Drwy gydol ei yrfa, mae Jason wedi dangos arweinyddiaeth eithriadol, tosturi ac ymrwymiad diysgog i wella bywydau rhai o'n trigolion mwyaf bregus.
“Mae'r wobr hon nid yn unig yn adlewyrchiad o ymroddiad personol Jason, ond hefyd o'r rôl hanfodol y mae gofal cymdeithasol yn ei chwarae yn ein cymunedau a'r bobl anhygoel sy'n gweithio ar draws y sector. Ar ran pawb, hoffwn ddweud llongyfarchiadau enfawr i Jason ar y wobr haeddiannol hon - Diolch i chi Jason am bopeth rydych chi'n ei wneud ac wedi'i wneud i gefnogi nid yn unig ein trigolion, ond hefyd eich cydweithwyr a'r sector gofal cymdeithasol ehangach yng Nghymru — diolch yn fawr iawn.”