Dyma Tony: Swyddog Diogelwch Cymunedol Newydd yn y Barri

02 Ionawr 2026

Gwyneb cyfeillgar ar y stryd fawr, clust i wrando yng nghanol y dref, a phresenoldeb gweladwy lle mae'n bwysicaf. Dyna ffocws ein Swyddog Diogelwch Cymunedol newydd yn y Barri.

Tony Parker on Holton Road in BarryDyma hefyd yr hyn a dynnodd Tony Parker i'r swydd hefyd, gan ddod a degawdau o brofiad fel cyn Swyddog yr Heddlu a chred gref bod diogelwch cymunedol go iawn yn dechrau gyda sgyrsiau bob dydd.

Ymunodd Tony â'r heddlu ar ddechrau'r 1990au, gan weithio mewn amrywiaeth o rolau, gan gynnwys amser a dreuliwyd yn y Barri lle bu'n cefnogi ac yn mentora swyddogion ifanc, a Bae Caerdydd lle gweithiodd yn agos gyda sefydliadau partner ar weithrediadau amlasiantaethol, gan gynnwys mynd i'r afael â masnachwyr twyllodrus a chefnogi diogelwch y cyhoedd yn ystod digwyddiadau mawr.

Ochr yn ochr â'i yrfa blismona, treuliodd Tony nifer o flynyddoedd hefyd yn gweithio mewn ysgolion, lle bu'n siarad â phobl ifanc am faterion diogelwch cymunedol megis troseddau cyllell, cyffuriau, ymddygiad mewn cymunedau, perthnasoedd iach a rheolaeth orfodol.

Yn dilyn ei ymddeoliad o'r Heddlu, parhaodd Tony yn ei angerdd dros gadw cymunedau'n ddiogel drwy ei waith mewn ysgolion sy'n darparu addysg diogelwch beicio ar y ffyrdd i blant.

Wrth fyfyrio ar yr hyn a'i denodd at ei rôl newydd yn y Fro, dywedodd Tony: “Teimlais ar unwaith ei fod yn iawn i mi. Roedd yn teimlo fel cyfle i ddod yn ôl i'r hyn rwy'n ei fwynhau fwyaf - gweithio'n uniongyrchol gyda phobl yn y gymuned.

“Ar ôl cwrdd â'r tîm, roedd hi’n ‘no-brainer’ llwyr. Roedd pawb yn groesawgar, yn frwdfrydig ac yn glir ynghylch yr hyn yr oeddent am ei gyflawni gyda'r rôl. Gallwn hefyd weld bwlch go iawn rhwng yr hyn sy'n digwydd mewn cymunedau a'r hyn sydd mewn gwirionedd yn cael ei adrodd i'r cyngor neu'r heddlu.

Tony Parker speaking to people in Barry“Rwy'n gweld y rôl hon fel cyfle i fod allan yn siarad â phobl, gwrando ar bryderon, ac annog trigolion i roi gwybod am faterion er mwyn gallu ymdrin â nhw’n iawn. Yn y pen draw, mae'n ymwneud â gwella ansawdd bywyd i bawb.”

Ers dechrau yn y rôl ar ddiwedd 2025, dywedodd Tony fod yr ymateb gan y gymuned wedi bod yn gadarnhaol iawn: “Mae pobl yn gweld rôl y Swyddog Diogelwch Cymunedol fel un hawdd mynd ati, rhywun sydd yn gwneud iddyn nhw deimlo’n gyfforddus. Rwyf eisoes wedi gallu trosglwyddo gwybodaeth ddefnyddiol ymlaen i sefydliadau partner a'r heddlu, sy'n dangos bod y rôl yn gwneud gwahaniaeth.

“Rwy'n credu bod cael presenoldeb gweladwy, yn enwedig yng nghanol trefi, yn helpu pobl i deimlo'n fwy diogel. Rydym yn gwybod bod adnoddau plismona yn cael eu hymestyn, ac nid yw swyddogion bob amser yn gallu bod allan ar droed gymaint ag y bidden nhw’n dymuno.”

Ychwanegodd: “Mae cael rhywun sy'n ymroddedig i ymgysylltu â'r gymuned yn llenwi bwlch pwysig. Mae fy nghefndir ym maes plismona yn rhoi hyder i mi wrth gyflawni'r rôl hon a deall sut orau i weithio gyda'r gymuned ac rwy'n wirioneddol gredu bod hon yn rôl mor werthfawr.”

Wrth i Tony ymgartrefu i'w rôl newydd, rydych chi'n debygol o'i weld allan yng nghanol tref y Barri, yn sgwrsio â thrigolion a busnesau. Os ydych chi’n ei weld o, mae croeso i chi ddweud helo – mae Tony bob amser yn hapus i stopio am sgwrs.