Mis Balchder Anabledd 2026
Mis Gorffennaf yw Mis Balchder Anabledd.
Mae Mis Balchder Anabledd yn gyfle i ddathlu anabledd, dechrau sgyrsiau cadarnhaol, ac eirioli dros gynhwysiant a hygyrchedd llawn.
Eleni rydym wedi gwahodd cydweithwyr i rannu beth mae Mis Balchder Anabledd yn ei olygu iddyn nhw, ac mae Kat Knibbs - un o'n cyd-gadeiryddion Rhwydwaith ABL - yn rhannu ei meddyliau yn ei geiriau ei hun.
“Kat ydw i, ac rwyf wedi bod yn gweithio i Gyngor Bro Morgannwg ers bron i bedair blynedd. Ar hyn o bryd rwy'n gweithio fel Swyddog Cynhwysiant o fewn Dechrau'n Deg. Mae fy rôl yn cynnwys cefnogi plant a theuluoedd ag anghenion ychwanegol, yn y cartref ac mewn lleoliadau grwpiau chwarae. Mae cynhwysiant wrth wraidd popeth rwy'n ei wneud, ac rwy'n angerddol am eirioli dros degwch a chyfle cyfartal i bawb.
“Rwy'n niwroamrywiol, gyda diagnosis o ddyslecsia a dyscalcwlia, ac ar hyn o bryd rwyf ar y rhestr aros am asesiad ADHD. Gyda chefnogaeth fy rheolwyr llinell, rwyf wedi gallu rhoi addasiadau rhesymol ar waith sy'n fy ngalluogi i weithio i safon uchel a ffynnu yn fy rôl.
“Fel llawer o bobl ag anableddau, rwyf wedi wynebu amrywiaeth o rwystrau drwy gydol fy mywyd. Dechreuais yn yr ysgol uwchradd gydag oedran darllen o pum mlwydd oed, a phrofais heriau drwy gydol fy addysg a'm cyflogaeth gynnar. Fodd bynnag, wrth i fy hyder dyfu, rwyf wedi dysgu siarad, gofyn am gefnogaeth, ac eirioli dros fy anghenion. Mae hyn wedi caniatáu imi ddatblygu'n bersonol ac yn broffesiynol, ac i fod lle rydw i heddiw.
“Rwy'n falch o fod yn niwroamrywiol ac i ddefnyddio fy mhrofiadau i gefnogi eraill. Fel un o arweinwyr Rhwydwaith ABL, rwyf wedi ymrwymo i hyrwyddo cynhwysiant ar draws Cyngor Bro Morgannwg a chefnogi cydweithwyr a allai wynebu heriau tebyg.
“Mae Mis Balchder Anabledd yn gyfle pwysig i gydnabod a dathlu amrywiaeth, herio stigma, a pharhau i chwalu'r rhwystrau. Mae'n ymwneud â bod yn falch o bwy ydym ni a gwerthfawrogi'r cryfderau unigryw rydyn ni i gyd yn dod â nhw.
“Gadewch i ni barhau i hyrwyddo cynhwysiant - nid dim ond y mis hwn, ond trwy gydol y flwyddyn. Mae pawb yn bwysig, ac dylai pawb cael eu gwerthfawrogi.”
Mae Abl - ein rhwydwaith anabledd staff - yn cwrdd yn rheolaidd, ac mae'n gyfle i gydweithwyr gymdeithasu, cynnig cyngor a chymorth a chydweithio i wneud newid ystyrlon ar draws ein sefydliad i'w wneud yn lle cynhwysol a chroesawgar i bawb.
I ddysgu mwy am ABL, cliciwch yma.