Staffnet+ >
Yr Wythnos gyda Lance 03 Gorffennaf 2026
Yr Wythnos gyda Lance
03 Gorffennaf 2026
Helo Pawb,
Un o'r pethau rwy'n eu mwynhau fwyaf am weithio ym maes Gwasanaethau Cymdeithasol yw gweld y nifer o wahanol ffyrdd mae pobl yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl eraill.
Weithiau mae hynny'n digwydd drwy'r gofal a'r tosturi y mae cydweithwyr yn eu dangos bob dydd. Weithiau mae'n drwy ffyrdd arloesol o gefnogi pobl i fyw'n annibynnol. Ac weithiau trwy gofleidio syniadau newydd a ffyrdd newydd o weithio sy'n ein helpu i ddarparu gwasanaethau hyd yn oed gwell i'n trigolion.
Yr wythnos hon, roeddwn i eisiau rhannu ychydig o enghreifftiau sydd wir yn dod â'r themâu hynny yn fyw.
Efallai bod llawer ohonoch wedi gweld ein cynllun Rhannu Bywydau yn ymddangos ar ITV yn ddiweddar fel rhan o gyfres sy'n edrych ar ofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru. Roedd yr adroddiad, a ddarlledwyd ar ITV Cymru a rhaglen Sharp End, yn tywynnu goleuni ar wasanaeth sydd wedi bod yn trawsnewid bywydau ledled y Fro ers mwy nag 20 mlynedd.
Mse cynllun Rhannu Bywydau yn cynnig cyfle i oedolion bregus dderbyn gofal a chymorth o fewn cartref teuluol, gan helpu pobl ag anableddau dysgu, anableddau corfforol, awtistiaeth, anghenion iechyd meddwl a dementia i fyw bywydau boddhaus o fewn eu cymunedau eu hunain tra'n hyrwyddo annibyniaeth a datblygu sgiliau newydd.
Diolch enfawr i Bernie Coppinger – un o’n gofalwyr Rhannu Bywydau - am agor ei chartref I gamerâu ITV a rhannu ei phrofiadau o gefnogi Rosie Shale trwy ofal seibiant.
Hoffwn ddiolch hefyd i'n Rheolwr Tîm Rhannu Bywydau, Paul Marchant, a siaradodd am y cynllun a'r rôl hanfodol mae ein gofalwyr yn ei chwarae wrth helpu pobl i aros yn gysylltiedig â'u cymunedau a byw bywyd ar eu telerau eu hunain.
Fel rhan o wythnos Rhannu Bywydau, daeth cydweithwyr, gofalwyr a'r unigolion a gefnogir gan y cynllun ynghyd hefyd ym Mharc Gwledig Bryngarw ar gyfer ein picnic blynyddol yn yr haf. Diolch byth rhoddodd y tywydd gwych gyfle i bawb ddal i fyny, mwynhau rhai gemau a threulio amser gyda'i gilydd mewn lleoliad hamddenol. Roedd hefyd yn hyfryd croesawu rhai o'n gofalwyr mwy newydd a dathlu pen-blwydd gydag un o'n teuluoedd Rhannu Bywydau hirsefydlog.
Mae digwyddiadau fel y rhain yn ein hatgoffa bod Rhannu Bywydau yn ymwneud â llawer mwy na darparu cefnogaeth. Mae'n ymwneud ag adeiladu perthnasoedd parhaol, creu cyfleoedd a meithrin ymdeimlad go iawn o berthyn.
Roedd yr un ymdeimlad hwnnw o gysylltiad yn amlwg yn ystod ein dathliadau diweddar Wythnos Gofalwyr yn Nhŷ Dewi Sant.
Daeth trigolion, perthnasau a chydweithwyr at ei gilydd i gydnabod y cyfraniad anhygoel a wnaed gan ofalwyr teuluol ochr yn ochr â'n timau cartrefi gofal ein hunain. Roedd yn gyfle i ddathlu'r tosturi, yr ymrwymiad a'r bartneriaeth sy'n sail i ofal o ansawdd uchel bob dydd.
Yn dilyn y digwyddiad, cawsom adborth gwych gan ferch un o'n trigolion, a ddywedodd y canlynol: “Roedd mor hyfryd gweld y trigolion, perthnasau a'r staff i gyd yn dod at ei gilydd, yn cymdeithasu, yn chwerthin, ac yn mwynhau cwmni ei gilydd. Roedd yr awyrgylch yn gynnes, yn groesawgar, ac yn glod gwirioneddol i bawb oedd yn cymryd rhan.
“Mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd ac emosiynol iawn i'n teulu, ond mae gwybod bod fy mam yn cael gofal gyda'r fath garedigrwydd, tosturi, a chariad gwirioneddol yn dod â chysur aruthrol i mi ac yn gwir gynhesu fy nghalon.
“Mae llawer gormod o bobl i'w sôn amdanynt yn unigol, ond os gwelwch yn dda, byddwch yn ymwybodol fy mod i'n hynod ddiolchgar i bob aelod o'r tîm. Nid yw eich ymroddiad, amynedd, a'ch gofal yn mynd yn ddisylw, ac maent yn gwneud y fath wahaniaeth i'r trigolion a'u teuluoedd.
“Mae gweld Mam wedi setlo, yn hapus, ac yn mwynhau ei hun yn golygu mwy nag y gall geiriau ei fynegi.”
Mae adborth fel hyn yn hynod ystyrlon oherwydd ei fod yn adlewyrchu'r gwahaniaeth mae ein cydweithwyr yn ei wneud bob dydd. Mae'r perthnasoedd y mae ein timau preswyl yn eu hadeiladu gyda thrigolion a'u teuluoedd yn ganolog i ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, a hoffwn ddiolch i bawb sy'n cymryd rhan am y proffesiynoldeb, yr empathi a'r ymroddiad y maent yn parhau i'w dangos.
Mae cefnogi pobl i gael mwy o ddewis a rheolaeth dros eu gofal eu hunain yn rhan bwysig arall o'r gwaith rydym yn ei wneud, felly hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle i atgoffa cydweithwyr am ein Hwb Taliadau Uniongyrchol newydd.
Wedi'i ddatblygu yn dilyn adborth gan bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth, mae'r Hwb yn dod â chanllawiau, cwestiynau cyffredin a gwybodaeth ymarferol ynghyd i ymarferwyr ac aelodau'r cyhoedd mewn un lle hawdd ei gyrchu.
Datblygwyd ein dull gweithredu drwy gyd-gynhyrchu â phobl sy'n derbyn Taliadau Uniongyrchol ac mae'n adlewyrchu deddfwriaeth gyfredol, arfer da a threfniadau diogelu cryf.
Yn bwysicaf oll, mae'n annog Taliadau Uniongyrchol i gael eu hystyried fel opsiwn safonol wrth gynllunio gofal a chymorth, gan helpu pobl i arfer mwy o ddewis dros sut mae eu hanghenion yn cael eu diwallu.
Os hoffech ddysgu mwy am Daliadau Uniongyrchol, ewch i'r Hwb Taliadau Uniongyrchol neu cysylltwch â Louis Burrows, ein Harweinydd Tîm Taliadau Uniongyrchol - lburrows@valeofglamorgan.gov.uk
Yn union fel rydym yn annog y bobl rydyn ni'n eu cefnogi i dyfu mewn hyder ac annibyniaeth, mae yr un mor bwysig ein bod yn parhau i ddysgu, datblygu ac addasu fel gweithwyr proffesiynol.
Adlewyrchwyd hynny yn ein Diwrnod Rheoli Adnoddau a Datblygu Diogelu diweddar.
Daeth y digwyddiad â chydweithwyr at ei gilydd ar gyfer cyfres o sesiynau deniadol sy'n ymdrin â phynciau a fydd yn helpu i lunio dyfodol ein gwasanaethau.
Roedd y rhain yn cynnwys diweddariad gan Tom Bowring ar Bro 2030, sesiwn gyda Tu Vida wrth i ni barhau i weithio tuag at achrediad Cyfeillgar i Ofalwyr, a gweithdy ymarferol a gyflwynwyd mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd a'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol ar y defnydd cyfrifol o Ddeallusrwydd Artiffisial.
Mae Ddeallusrwydd Artiffisial yn dod yn rhan fwyfwy pwysig o'r gweithle modern, a rhoddodd y gweithdy hwn gyfle i gydweithwyr archwilio sut y gall offer fel Microsoft Copilot gefnogi tasgau bob dydd tra'n cynnal safonau uchel ynghylch diogelu data, moeseg a defnydd cyfrifol.
Mae'n galonogol gweld cydweithwyr yn cofleidio technoleg newydd gyda chwilfrydedd tra'n cadw pobl yng nghanol popeth rydyn ni'n ei wneud. Wedi'i ddefnyddio'n feddylgar, mae gan yr offer hyn y potensial i wella effeithlonrwydd, lleihau baich gweinyddol ac yn y pen draw rhoi mwy o amser i ni ganolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf - cefnogi ein trigolion a'n cymunedau.
Mae angen i mi fynegi fy niolch diffuant hefyd i gydweithwyr corfforaethol sydd wedi helpu i ddatblygu ein canolfan newydd ar gyfer gwasanaethau Plant yn Nhŷ Jenner. Mae cydweithwyr Digidol, Cyfathrebu, Cyfleusterau ac Eiddo wedi ein helpu i greu lle croesawgar iawn i'n staff a'r plant rydym yn eu gwasanaethu. Diau y bydd cydweithwyr gwasanaethau plant yn dadbacio wrth i'r neges hon gyrraedd ond hoffwn hefyd ddymuno pob llwyddiant iddynt yn y safle newydd.
Ar ran fy hun a gweddill SLT, diolch i chi am eich ymdrechion yr wythnos hon - mae eich proffesiynoldeb, eich tosturi a'ch ymrwymiad yn parhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r bobl rydyn ni'n eu gwasanaethu.
I'r rhai sydd i ffwrdd dros y penwythnos, rwy'n gobeithio y cewch gyfle i ail-lenwi a mwynhau rhywfaint o orffwys haeddiannol iawn.
Diolch,
Lance