Yr Wythnos gyda Rob
26 Mehefin 2026
Helo Bawb,
Mae'r wythnos hon wedi bod yn boeth - a dweud y lleiaf! — gydag amodau chwyrchus yn ei gwneud hi'n llawer anoddach gweithredu ystod o wasanaethau.
Mae'r holl staff, yn enwedig y rhai ar y rheng flaen, hefyd wedi gorfod addasu'r ffordd y maent yn gweithio i reoli'r gwres a chadw'n ddiogel.
Ond, fel bob amser, mae cydweithwyr ar draws y Cyngor wedi codi i'r her hon i barhau i gyflawni'r ddarpariaeth y mae trigolion yn dibynnu arni.
Roedd Timau Gwastraff i fyny cyn y wawr am rowndiau casglu 5am ac roedd yn rhaid iddynt ymdopi â llu o ddeunydd ychwanegol a adawyd yn ein lleoliadau arfordirol, llawer ohono yn frith.
Roedd yn rhaid i'r Tîm Cyrchfannau reoli'r nifer enfawr o bobl ychwanegol sy'n ymweld â mannau fel Ynys y Barri ac Aberogwr oherwydd y tymereddau, tra bod ein parciau hefyd yn llawn dop.
Yn anffodus, arweiniodd torfeydd mor fawr hefyd at dagfeydd, problemau parcio ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, gyda rhai yn dewis cynnau tanau, dympio gwastraff a nofio mewn lleoliadau anaddas.
Wrth gwrs, mae hyn yn gwneud bywyd yn fwy anodd i'n staff, ond ymatebodd pob un yn gadarnhaol a gyda phroffesiynoldeb. Da iawn pawb.
Roedd y sefyllfa fwyaf difrifol ym Mharc Gwledig Cosmeston lle roedd nifer gynyddol fawr o bobl ifanc yn eu harddegau wedi ymgynnull wrth i'r wythnos fynd yn ei blaen.
Roeddent yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a pheryglus, gan neidio i ddŵr agored heb unrhyw oruchwyliaeth na mesurau diogelwch ar waith.
Pan geisiodd staff Cosmeston gadw'r unigolion hyn yn ddiogel drwy dynnu sylw at y risgiau dan sylw, cawsant eu cyfarfod ag ymddygiad ymosodol a cham-drin.
Mae'n ddrwg gen i fod rhai staff wedi gwynebu’r math ymddygiad - mae'n gwbl annerbyniol.
Diolch i chi am eich ymdrechion i amddiffyn y bobl ifanc dan sylw. Mae'n dangos dewrder a thosturi i roi eu lles yn gyntaf, yn enwedig pan nad oeddent yn dangos unrhyw ystyriaeth amdano eu hunain.
Nos Fercher, bu'n rhaid i'r Heddlu gyhoeddi gorchymyn gwasgaru i dorri'r grŵp i fyny ac maent hefyd wedi bod yn patrolio'r parc dros y cwpl o ddiwrnodau diwethaf.
Bu sefyllfaoedd tebyg hefyd ym Mhier Penarth a Phwynt y Rhws.
Rwy'n ddiolchgar i'r holl gydweithwyr am y proffesiynoldeb y maent wedi'i ddangos wrth weithio yn y lleoliadau hyn a hefyd yn ddiolchgar i gydweithwyr yn Heddlu De Cymru sydd wedi bod yn amserol iawn yn eu hymateb a'u gweithredu. Mae'n dangos y bartneriaeth ardderchog sy'n bodoli rhwng ein dau sefydliad.
Rwy'n ymwybodol iawn bod y sefyllfa yn ein hysgolion hefyd yn cyflwyno heriau. Caeodd llawer i amddiffyn eu disgyblion, tra bod eraill yn aros ar agor gydag ystod o fesurau arbennig yn eu lle.
Gwnaed penderfyniadau ynghylch a ddylid aros ar agor neu gau neu gau'n rhannol yn lleol o ystyried y bydd llawer wedi dibynnu ar natur adeiladau'r ysgol a'r cyfleusterau sydd ar gael.
Fodd bynnag, rwy'n ddiolchgar iawn i holl staff ein hysgolion a fu'n gorfod ymgodymu â thymheredd uchel a lleithder uchel drwy gydol yr wythnos — diolch yn fawr iawn pawb.
Roedd staff y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cynnal gofal am y bobl oedd ei angen, boed yn eu cartref eu hunain, neu un a reolir gan y Cyngor.
Mae'r diffyg amhariaeth ar wasanaethau yn dangos ymrwymiad ein staff wrth ddarparu gofal i'r rhai sydd ei angen fwyaf — diolch i chi.
Ac roedd cydweithwyr Tai ar ddyletswydd i helpu tenantiaid a'r rhai sy'n ddigartref mewn amgylchiadau anodd, gan hyd yn oed yn dosbarthu dŵr ac eli haul i bobl oedd ei angen arno.
Diolch enfawr i bawb ledled ein sefydliad a oedd yn gweithio mewn amodau mor anghysurus. Rwyn gwrthfawrogi’r ymrwymiad hwnnw yn fawr iawn.
Mae ymdrechion staff yn ystod y don wres diweddar hefyd wedi denu sylw cenedlaethol.
Roedd ITV yn Ynys y Barri ddoe, lle buont yn siarad â'r Swyddog Ailgylchu Carys Stephens am yr adnoddau ychwanegol sydd eu hangen i reoli'r gyrchfan ar adeg mor brysur.
Fe wnaethant eto ffilmio'r gwaith lanhau helaeth ac adroddwyd ar yr union beth sy'n gysylltiedig â chadw'r Ynys yn edrych ar ei gorau ar adegau o boblogrwydd enfawr.
Da iawn Carys a phawb dan sylw — mae'n amlwg nad yw eich ymdrechion yn mynd yn ddisylw.
Wedyn heddiw, bydd camerâu ITV yn ymweld â Cosmeston am ddarn am beryglon nofio mewn lleoliadau heb oruchwyliaeth.
Mae hon yn neges mor bwysig, un yr ydym wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid i'w hyrwyddo.
Mae'r risg o farwolaeth neu anaf difrifol o nofio mewn dŵr agored yn uchel.
Mae sioc dŵr oer, ceryntau cryf a pheryglon cudd yn beryglon a all gael canlyniadau dinistriol.
Eisoes eleni bu nifer o adroddiadau am bobl yn marw ledled y DU wrth nofio ac mae'n bwysig nad ydym yn atal ar ymdrechion i gyfathrebu'r peryglon dan sylw.
Bydd llawer yn ein beirniadu am wneud hynny, ond byddem yn methu ein trigolion a'n hymwelwyr pe bai ni ddim yn manteisio ar bob cyfle i gyfleu'r negeseuon pwysig hyn.
Yn olaf, diolch yn ddiffuant ac o waelod calon i bawb am eich gwaith yr wythnos hon.
Nid yw hi wedi bod yn hawdd, ond rydych chi wedi parhau i berfformio i’r radd uchaf posibl bob tro.
I'r rhai sydd ddim yn gweithio, mwynhewch gwpl o ddiwrnodau i ffwrdd i orffwys, ymlacio ac oeri, yn enwedig o ystyried y bydd y tymheredd yn gostwng yn agosach at y cyfartaledd a ddisgwylir ar gyfer yr adeg hon o'r flwyddyn.
Diolch yn fawr iawn,
Rob