Cadw'n Ddiogel ac yn Iach yn Ystod y Tywydd Poeth 

23 Mehefin 2026

Annwyl Gydweithwyr, 

Gyda'r tywydd poeth presennol, roeddwn am roi rhai diweddariadau ynghylch y sefyllfa bresennol gyda'r tywydd poeth a manteisio ar y cyfle hefyd i atgoffa pawb am gyngor iechyd cyhoeddus syml ond pwysig i helpu i gadw eich hunain ac eraill yn ddiogel ac yn iach. 

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd tywydd coch am wres eithafol ac mae rhybudd iechyd gwres coch wedi'i gyhoeddi hefyd.

Mae'r rhybudd tywydd coch a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Dywydd yn cwmpasu rhan fawr o Dde'r DU o 09:00 ddydd Mercher tan 21:00 nos Iau. 

Yn y cyfamser, bydd rhybudd iechyd gwres coch a gyhoeddwyd gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) hefyd yn cwmpasu'r un ardal. 

Er bod y rhybudd tywydd coch yn ymwneud â gwres a thymheredd uchel, yr hyn sy'n gwneud y digwyddiad hwn yn arbennig o heriol yw'r ffaith bod hyn hefyd yn cynnwys lleithder uchel. 

Rwy'n ymwybodol iawn y bydd tymheredd mor uchel yn effeithio ar ddarparu gwasanaethau. Mae gennym niferoedd sylweddol o gydweithwyr yn gweithio ar y rheng flaen, mewn cartrefi gofal, yn yr ysgol ac allan yn ein cymunedau. 

Fe wnaeth gydweithwyr o Dîm Arweinyddiaeth Strategol y Cyngor gyfarfod y bore yma a chefais ddiweddariad gan ein tîm Cynllunio Sifil er mwyn sicrhau ein bod ni mor barod â phosibl. Byddwn yn adolygu'r sefyllfa eto bore yfory. 

Bydd unrhyw newidiadau i ddarparu gwasanaethau sy'n effeithio ar breswylwyr yn cael eu hychwanegu at y wefan drwy gydol y dydd heddiw ac am weddill yr wythnos. 

Yn y cyfamser, cofiwch: 

  • Gofalwch am eraill, yn enwedig pobl hŷn, plant ifanc, ac unrhyw un a allai fod yn fwy agored i effeithiau'r gwres. 
  • Arhoswch yn y cysgod lle bo modd, yn enwedig yn ystod rhannau poethaf y dydd. 
  • Yfwch ddigon o ddŵr trwy gydol y dydd i gadw’n hydradol. 
  • Cadwch fannau dan do yn oer trwy gau llenni, bleindiau a ffenestri yn ystod y dydd, yna agor ffenestri gyda'r nos pan fydd y tymheredd yn dechrau gostwng. 
  • Defnyddiwch eli haul gyda SPF 30+ ac o leiaf amddiffyniad UVA 4-seren os ydych chi'n treulio amser yn yr awyr agored. 

Mae rhagor o gyngor a gwybodaeth ar gael gan: 

Iechyd Cyhoeddus Cymru: https://phw.nhs.wales/knowledge-article/hot-weather/ 

Rhybuddion tywydd a chyngor y Swyddfa Dywydd: https://www.metoffice.gov.uk/weather/warnings-and-advice/uk-warnings  

Ddoe, gwnaethom hefyd gylchredeg canllawiau i reolwyr ar sicrhau y gall eu timau weithio'n ddiogel yn ystod cyfnodau o dywydd poeth, gan gynnwys cymryd mesurau priodol a gwneud addasiadau i batrymau gweithio lle bo hynny'n bosibl. Rwyf hefyd yn ymwybodol bod y Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau hefyd wedi cyhoeddi cyngor i bob ysgol yn gynharach heddiw. Fel y nodwyd uchod, byddwn yn adolygu'r sefyllfa ymhellach bore yfory ac os oes angen, cyhoeddi diweddariadau pellach. 

Byddwn yn ddiolchgar pe gallai pawb ymgyfarwyddo â'r canllawiau hynny. Os oes gennych unrhyw bryderon am eich amgylchedd gwaith neu'ch trefniadau, codwch nhw gyda'ch rheolwr neu Bennaeth Gwasanaeth. 

Diolch i chi am eich cefnogaeth wrth helpu i gadw'ch hunain, eich cydweithwyr a'n cymunedau yn ddiogel yn ystod y cyfnod hwn o dywydd poeth. 

Diolch yn fawr, 

Rob