Staffnet+ >
Gŵyl Fach y Fro yn Dychwelyd i Ynys y Barri
Gŵyl Fach y Fro yn Dychwelyd i Ynys y Barri
18 Mai 2026
Mae Gŵyl Fach y Fro wedi dychwelyd i Ynys y Barri unwaith eto eleni, gan ddod â’r dathliad Cymraeg mwyaf am ddim y Fro yn ôl i lan y môr am benwythnos cyffrous.
Roedd yr ŵyl yn cynnwys artistiaid a bandiau poblogaidd, perfformiadau gan ysgolion lleol, stondinau bwyd a chrefft, y gofod creadigol newydd Hafan Iolo ac ail ddiwrnod o gerddoriaeth i gefnogi Ras 10k Ynys y Barri.
Y perfformwyr oedd wedi’u cadarnhau ar gyfer 2026 yn cynnwys Celt, Aleighcia Scott, Taran, Pwdin Reis, Daniel Lloyd a Mr Pinc, a llawer mwy.
Roedd dysgwyr o nifer o ysgolion Bro Morgannwg yn perfformio trwy gydol y digwyddiad hefyd.
Fe wnaeth y digwyddiad gynnig gwledd o gerddoriaeth a dathlodd cyfoeth diwylliant Cymraeg ym Mro Morgannwg ar ei orau!
Diolch yn fawr iawn i bawb a oedd wedi gweithio'n galed wrth gynllunio a chydweithio i sicrhau bod y digwyddiad yn un llwyddiannus dros ben!