Staffnet+ >
Staff Gwasanaeth Ieuenctid y Fro yn Cofleidio yr Gymraeg yn y Gweithle
Staff Gwasanaeth Ieuenctid y Fro yn Cofleidio’r Gymraeg yn y Gweithle
26 Mai 2026
Mae staff ar draws Gwasanaeth Ieuenctid y Fro yn mynd uwch ben a thu hwnt i ddysgu Cymraeg fel rhan o ymdrech gynyddol i wneud y gwasanaeth yn fwy dwyieithog, cynhwysol ac yn adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ar draws y Fro.
Mae 15 aelod o staff y gwasanaeth yn cymryd rhan mewn gwersi Cymraeg ar hyn o bryd, gyda chydweithwyr yn defnyddio eu sgiliau newydd mewn sgyrsiau o ddydd i ddydd gyda phobl ifanc, teuluoedd, ysgolion a'u gilydd.
I lawer o aelodau staff, mae'r profiad nid yn unig wedi gwella eu sgiliau iaith, ond hefyd wedi cryfhau eu cysylltiad â diwylliant a hunaniaeth Cymru.
Buom yn siarad â rhai cydweithwyr yn y Gwasanaeth Ieuenctid yn ddiweddar am eu teithiau wrth ddysgu Cymraeg ac fe wnaethant rannu sut mae'n eu helpu i fagu hyder, cryfhau perthynas â phobl ifanc a chreu amgylchedd mwy dwyieithog ar draws y gwasanaeth.
Dywedodd Kelly: “Rwy'n mwynhau'r gwersi Cymraeg yn fawr, a hoffwn i mi fod wedi talu mwy o sylw yn yr ysgol wrth ddysgu! Rwy'n defnyddio fy Nghymraeg gymaint â phosibl wrth siarad gyda fy nghydweithwyr, pobl ifanc yn ein clybiau ieuenctid ac wrth siarad gyda gweithwyr proffesiynol eraill sy'n siarad Cymraeg. Rwy'n teimlo cymaint mwy o falchder mewn bod yn Gymro nawr mae gen i well gafael ar yr iaith. Mae ein tiwtor Sarian yn anhygoel ac rydym i gyd yn edrych ymlaen at ei gwersi!”
I Peter, mae'r prosiect hefyd wedi cryfhau diwylliant tîm o fewn y gwasanaeth: “Mae'r tîm wedi dod at ei gilydd i gefnogi'r ffordd ehangach hon o weithio ac yn adeiladu hyn drwy gydol y diwrnod gwaith o fewn y swyddfa ac wrth gyfathrebu. Ochr yn ochr â hyn, mae wedi rhoi mwy o hyder i mi wrth geisio ymgorffori elfennau o'r Gymraeg wrth siarad â chydweithwyr a phartneriaid Cymraeg er mwyn gallu dangos ein datblygiad fel gwasanaeth.”
Myfyriodd Tracy ar sut mae'r gwersi wedi trawsnewid ei pherthynas â'r iaith: “Cyn dysgu Cymraeg, dim ond gwybodaeth gyfyngedig iawn oedd gennyf o'r iaith, gan ddwyn i gof ambell air o'r ysgol yn y 1980au. Mae datblygu fy Nghymraeg wedi fy ngalluogi i gyfathrebu â chydweithwyr a phobl ifanc Cymraeg eu hiaith. Mae hyn yn cryfhau fy ymgysylltiad fel gweithiwr ieuenctid ac yn annog mwy o ddefnydd o'r Gymraeg ymhlith y bobl ifanc rwy'n eu cefnogi.”
Disgrifiodd Kris effaith ehangach y fenter ar draws y gweithle a lleoliadau cymunedol: “Ers dechrau dysgu Cymraeg gyda Gwasanaeth Ieuenctid y Fro rwyf wedi sylwi bod cyfarchion ac ymadroddion sylfaenol yn dechrau ymgorffori yn fy geirfa ac rwyf hefyd wedi sylwi bod hyn wedi bod yn wir o fewn amgylchedd y swyddfa gyda bron pob dysgwr Cymraeg yn sgwrsio mewn ymadroddion sgyrsiol sylfaenol. Mae'n teimlo bod hyn hefyd wedi creu awyrgylch ble rydym yn gweithio ochr yn ochr â'n gilydd er budd y bobl ifanc rydym yn eu cefnogi, ond hefyd i gefnogi ein datblygiad proffesiynol.
“Rwyf wedi dechrau defnyddio Cymraeg sylfaenol wrth ymweld ag Ysgol Bro Morgannwg ac wedi eu hysbysu am fy nhaith Dysgu Cymraeg ac mae hyn wedi cael derbyniad cynnes. O fewn fy ngwaith yn y gymuned, rwyf wedi dechrau defnyddio Cymraeg gyda phobl ifanc yn yr Hive Guys sy'n mynychu Ysgol Bro Morgannwg sydd wedi bod yn gadarnhaol ac yn caniatáu i'r eirfa gael ei hymgorffori ymhellach.
“O fewn prosiect yr Hive Guys mae aelod o'r gymuned – sy’n Cymraeg ei hiaith- wedi bod yn fy annog i gynnal sgyrsiau sylfaenol pan fyddant yn mynychu'r prosiect, sy'n caniatáu i mi fagu hyder a chreu amgylchedd lle mae'r iaith yn cael ei chroesawu a'i hyrwyddo.”
Mae cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg o fewn y Gwasanaethau Ieuenctid yn ffurfio rhan annatod o ymrwymiad ehangach y Cyngor i greu gwasanaethau hygyrch, cynhwysol ac ymatebol yn ddiwylliannol i bobl ifanc ledled y Fro.
Mae'r gwaith hwn hefyd yn adlewyrchu'r uchelgais genedlaethol ehangach i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, tra'n cefnogi enw da cynyddol Bro Morgannwg fel un o'r ychydig ardaloedd yng Nghymru sy'n gweld cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg ar hyn o bryd.