Staffnet+ >
Cyngor y Fro yn Mynd i'r Afael â Strydoedd Gludiog
Cyngor y Fro yn Mynd i'r Afael â Strydoedd Gludiog
09 Tachwedd 2026
Mae tîmau Strydlun newydd y Cyngor yn mynd i'r afael â staeniau gwm cnoi ystyfnig ar balmentydd, yn dilyn cyllid newydd drwy Dasglu Gwm Cnoi Cadwch Brydain yn Daclus.
Mae'r grant wedi galluogi'r Cyngor i lansio prosiect glanhau palmantydd, gan ddefnyddio peiriannau arbenigol a datrysiadau glanhau sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd i gael gwared ar gwm cnoi o fannau cyhoeddus prysur.
Yn 2026, gwnaeth 78 o gynghorau gais am gyllid drwy'r cynllun, gyda 50 o ymgeiswyr llwyddiannus. Roedd Bro Morgannwg yn un o bum cyngor yn unig yng Nghymru i dderbyn grant ac yn un o 16 cyngor i sicrhau cyllid am y tro cyntaf.
Mae'r fenter wedi'i hariannu'n gyfan gwbl gan grantiau ac fe'i cefnogir gan brif wneuthurwyr gwm cnoi i helpu awdurdodau lleol i fynd i'r afael â sbwriel gwm cnoi.
Dywedodd Carys Stephens, Swyddog Prosiect Gwastraff: “Yn dilyn awgrym cychwynnol gan gydweithwyr Street Scene, gofynnwyd imi archwilio'r cynllun a'i fanteision posibl i'r Fro. Darganfyddais fod y cynllun wedi bod yn rhedeg ers pum mlynedd, ond nad oeddem erioed wedi gwneud cais o'r blaen. Cyflwynais gais ar ran y Fro, gyda'r nod o dargedu ardaloedd troed uchel fel Heol Holton yng nghanol tref y Barri a Phenarth.
“Bu rhai mân heriau ar hyd y ffordd, ond er gwaethaf hyn, gwnaethom gwmpasu cymaint o strydoedd ac ardaloedd â phosibl, ac er bod y prosiect i fod i orffen ar 30 Hydref yn wreiddiol, rydym wedi penderfynu parhau â'r prosiect am gyfnod estynedig.
“Byddwn yn ailymweld â Heol Holton ac rydym yn bwriadu dechrau ar y gwaith ar Broad Street yn fuan. Rydym hefyd yn hapus i ystyried ceisiadau am feysydd eraill a allai elwa o'r gwasanaeth.”
Mae'r rhaglen lanhau yn cymryd dull fesul cam, gan ganolbwyntio i ddechrau ar ardaloedd troed uchel yng nghanol trefi, ac ardaloedd siopa prysur lle mae gwm cnoi yn fwyaf amlwg.
Dyma'r eitem diweddaraf mewn cyfres o brosiectau llwyddiannus a gyflwynir gan ein tîm Strydlun newydd, gan helpu i gadw ein trefi a'n pentrefi ar draws y Fro yn edrych ar eu gorau.