Yr Wythnos gyda Rob
20 Tachwedd 2026
Helo pawb,
Fel y gwyddoch, achosodd toriad Microsoft byd-eang yr wythnos diwethaf heriau ar draws ystod o wasanaethau ac, o ganlyniad, mae'r diweddariad hwn wedi'i ohirio tan heddiw. Hoffwn ddechrau’r neges yma drwy ddiolch i gydweithwyr eto am eu dyfalbarhad yn ystod yr anawsterau technegol, ac am barhau i ddarparu gwasanaethau a chymorth i'n trigolion drwy gydol yr aflonyddwch. Diolch yn fawr i chi gyd.
Yn ddiweddar, cefais gyfle i deithio i Ogledd Cymru i gymryd rhan mewn cyfres o weithdai Bwrdd Rheoli Etholiadau Cymru.
Mae'r Bwrdd rwyn ei grybwyll yn cynnwys cynrychiolwyr sy'n ymwneud â gweinyddu etholiadau o Lywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Dall a Heddluoedd De a Gogledd Cymru.
Ei rôl yw darparu arweinyddiaeth, cydlynu, arweiniad a chynllunio a rennir ar gyfer gwasanaethau etholiadol ar draws cynghorau Cymru.
Roedd gan y digwyddiad yr wythnos diwethaf ffocws arbennig ar yr Etholiadau Lleol sydd i ddod ym mis Mai wrth i bartneriaid rannu dysgu o etholiadau diweddar, dulliau o gynllunio, a syniadau ar sut y gellir cydlynu etholiadau yn y dyfodol ledled Cymru yn fwy effeithiol.
Wrth i ddiwedd y flwyddyn agosáu, mae ein gwaith yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau arwyddocaol sydd ar y gorwel.
Mae cynllunio etholiad yn un o'r rheini a gosod y gyllideb yn un arall.
Mae paratoadau mewnol ar gyfer yr etholiad ar y gweill wrth i'r gwaith anodd o roi trefniadau ymarferol ar waith ar gyfer digwyddiad mor gymhleth gymryd siâp.
Rhaid gwneud gwaith i hyrwyddo democratiaeth leol drwy annog pobl i gofrestru i bleidleisio a bwrw eu pleidleisiau.
Mae angen codi ymwybyddiaeth hefyd ynghylch newidiadau i ffiniau wardiau lleol yn ogystal â chamau i sicrhau niwtraliaeth wleidyddol gwasanaethau a staff y Cyngor.
Mae cynnydd a chynllunio ar bob un o'r pynciau uchod yn mynd rhagddo er mwyn sicrhau bod pob agwedd ar yr etholiad yn rhedeg yn esmwyth.
Bydd ein holl Brif Swyddogion hefyd yn dod ynghyd i ystyried a pharatoi ar gyfer yr etholiad a'r materion sy'n dilyn yng nghanol mis nesaf.
Y lefel hon o drefniadaeth yw'r rheswm ein bod yn cynnal etholiadau mor effeithlon.
Etholaeth Penybont-Bro Morgannwg, y gwnaethom reoli trefniadau Etholiad y Senedd 2026 ar ei chyfer, oedd yr ail yng Nghymru i ddatgan diolch i waith caled Rachel Starr a gweddill y tîm etholiadol.
Amlygwyd ymroddiad a thrylwyredd Rachel, a'r gefnogaeth a ddarparwyd gan Mike Bumford o'n Tîm Cyfrifeg, mewn e-bost a gawsom yn ddiweddar gan Is-adran Etholiad Llywodraeth Cymru.
Roeddent yn canmol pa mor drefnus oedd anfonebau a thaenlenni, gan wneud yn hawdd iawn i'w brosesu. Gwaith arbennig!
Mae gwaith ar gyllideb y flwyddyn nesaf hefyd yn mynd yn ei flaen wrth i ni symud yn nes at gydbwyso'r llyfrau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Mae hon bob amser yn dasg anodd sy'n golygu goresgyn heriau ariannol sylweddol, ond mae Matt Bowmer, Gemma Jones a'r tîm yn gwneud gwych i'n cael i'r sefyllfa honno.
Mae'r broses hyd yn hyn wedi cynnwys asesu pwysau cost ac adolygiad Prif Swyddog o'r gwariant.
Cyflwynwyd amrywiaeth o gynigion Aillunio hefyd a chynhaliwyd gweithdai cyllidebol ar lefel Gyfarwyddiaeth ac ar lefel y Cyngor gyfan.
Mae trafodaethau ar y pwnc hwn yn parhau yng nghyfarfodydd y Cabinet a'r Tîm Arweinyddiaeth Strategol wrth inni aros i ddarganfod ein setliad ariannol gan Lywodraeth Cymru. Dyma lle daw'r mwyafrif helaeth o gyllid y Cyngor.
Unwaith y bydd y wybodaeth honno yn hysbys, bydd y gyllideb yn cael ei diweddaru cyn gyfnod ymgynghori mis o hyd â thrigolion a phartneriaid, gan gynnwys Undebau Llafur a'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, sy'n dechrau ym mis Ionawr.
Ar ôl hynny, bydd y cynigion yn cael eu hystyried gan bwyllgorau craffu ac unwaith eto gan y Cabinet cyn i ni anelu at bennu cyllideb gytbwys i'w hystyried gan y Cyngor Llawn ym mis Mawrth.
Byddaf wrth gwrs yn eich diweddaru wrth i'r llun ddatblygu.
Mae ail-lunio yn sylfaenol i gynllunio'r gyllideb ac yn elfen allweddol o strategaeth y Cyngor yn y dyfodol wrth i ni edrych i ailgynllunio gwasanaethau er mwyn parhau i ddarparu ar gyfer ein trigolion.
Mae hefyd yn ganolog i Bro 2030, ein Cynllun Corfforaethol, a dyma thema rownd ddiweddaraf y Sesiynau Datblygu Rheolwyr.
Ar ôl i'r sesiynau gwanwyn ganolbwyntio ar Gynlluniau Cyfarwyddiaeth unigol a'r hyn oedd angen ei gyflawni, roedd rheolwyr ac arweinwyr tîm yn edrych ar sut y gellir cyflawni hyn yn y cylch ddiweddaraf o drafodaethau.
Daeth y digwyddiadau ynghyd a lawer o sgyrsiau am ddefnyddio adnoddau yn well, cyfleoedd i gydweithio, ac awgrymiadau ar sut i symleiddio, gwella neu ailgynllunio'r hyn rydyn ni'n ei wneud.
Hoffwn ddiolch i bawb a fynychodd am yr egni a'r brwdfrydedd a wnaethoch chi ddod â'r sesiynau.
Mae llawer o syniadau gwych i'w bwrw ymlaen a all fod o fudd gwirioneddol i breswylwyr a'n helpu i wasanaethu ein cymunedau yn well.
Fel bob amser, diolch hefyd i'r holl staff am eich ymdrechion yr wythnos hon - mae eich cyfraniad yn cael ei werthfawrogi'n fawr.
I'r rhai sydd ddim yn gweithio dros y penwythnos, mwynhewch gwpl o ddiwrnodau i ffwrdd i ymlacio a gorffwys.
Diolch yn fawr iawn,
Rob