Dathlu Cydweithwyr Gofal y Fro yng Ngwobrau Rhagoriaeth Rhanbarthol mewn Gofal

23 Tachwedd 2026

Roedd digon i'w ddathlu i Dîm y Fro yng Ngwobrau Rhagoriaeth Rhanbarthol mewn Gofal 2026 Caerdydd a'r Fro yr wythnos diwethaf, gyda chydweithwyr o wasanaethau gofal preswyl y Cyngor yn cael eu cydnabod am eu cyfraniad eithriadol i ofal a chymorth.

excellence in care awards-5Mynychodd Jayakodi Paithirannehelage Chandrarathna, Joseph Regan a Chioma Emesowum o Dŷ Dewi Sant ac Olubukola Salami o Gartref Porthceri y seremoni yng Nghanolfan y Celfyddydau Memo yn y Barri ddydd Mercher 18 Tachwedd i chwifio'r faner dros y Cyngor a chynrychioli'r gwaith rhagorol sy'n digwydd ar draws ein cartrefi gofal.

Mae Gwobrau Rhagoriaeth Rhanbarthol mewn Gofal Caerdydd a'r Fro yn ddathliad blynyddol o'r gweithlu gofal cymdeithasol, gan gydnabod cydweithwyr sydd wedi cwblhau cymwysterau, wedi symud ymlaen yn eu gyrfaoedd ac wedi dangos ymrwymiad parhaus i ddarparu gofal a chymorth o ansawdd uchel.

Mae llwyddiant y Fro yn y gwobrau eleni yn adlewyrchu'r ymroddiad, y proffesiynoldeb a'r ymrwymiad a ddangosir gan yr holl gydweithwyr ar draws ein gwasanaethau gofal preswyl bob dydd. Mae eu hymdrechion yn helpu i ddarparu gofal o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon i fywydau trigolion a'u teuluoedd.

Llongyfarchiadau pawb!