Diwrnod Shwmae / Su’mae 2026 

12 Hydref 2026

Dewch i ddweud Shwmae / Su’mae!

  • Pryd: Dydd Iau 15 Hydref
  • Amser: 11yb — 11:30yb
  • Ble: Teams
  • Pwy: Pawb

Mae Diwrnod Shwmae Su'mae yn ymwneud ag annog pawb i ddechrau sgyrsiau yn Gymraeg, gyda Shwmae neu Su'mae cyfeillgar. Gobeithio eich bod eisoes wedi dweud helo wrth rywun heddiw, ond beth am ddod draw i ddweud SHWMAE wrth ambell un arall!

Mae croeso i unrhyw lefel o Gymraeg — bachwch paned a chacen a chael ychydig o seibiant gyda chydweithwyr o bob rhan o'r Fro i ddathlu Diwrnod Shwmae Su'mae! 

Defnyddiwch y ddolen yma i ymuno ddydd Iau 15 Hydref!