Staffnet+ >
Timmy - Cath Cartref Porthceri - Wedi Marw
Timmy - Cath Cartref Porthceri - Wedi Marw
26 Hydref 2026
Yn anffodus, bu farw Timmy - cath Cartref Porthceri - ar yr 20fed o Hydref 2026.
Cafodd ei eni ym mis Mehefin 2009, a bu'n byw i henaint aeddfed o ystyried iddo gael dechrau anodd ac hefyd ei waith wrth amddiffyn ei gartref Cartref Porthceri rhag anifeiliaid eraill, gan gynnwys cathod, gwiwerod, cŵn, a llwynogod.
Cafodd Timmy ei adael gan ei berchnogion yn ifanc iawn, a mabwysiadodd Gartref Porthceri yn ddoeth fel ei gartref, lle dros y blynyddoedd mae wedi dod â llawenydd aruthrol i drigolion a staff fel ei gilydd.
Roedd yn adnabyddus iawn ymysg gymuned ehangach hefyd. Byddai pobl yn ei weld yn torheulo yn yr haul yn rheolaidd yn y maes parcio, ac roeddent yn buddsoddi yn ei les trwy ddod â danteithion i Timmy pan allan ar eu teithiau cerdded, neu galw heibio i roi ffys iddo.
Diolch yn fawr i bawb fu'n helpu i ofalu amdano, yn enwedig yn ystod yr wythnosau diwethaf, pan roedd angen meddyginiaeth ddyddiol ac anogaeth arno i fwyta. At hynny, rydym am fanteisio ar y cyfle i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu mor hael i'r 'gronfa Timmy' dros y blynyddoedd - a helpodd i dalu am deithiau dirifedi i'r milfeddyg am driniaeth.
Bydd Timmy yn cael ei golli’n ofnadwy, roedd yn bresenoldeb cyson yng Nghartref Porthceri, ond roedd y rhai oedd yn ei adnabod hefyd yn gallu bod yn dyst i'r effaith gadarnhaol a gafodd ar les y trigolion.
Cysga’n Dawel Timmy.