Staffnet+ >
Darganfyddwch Sgil, Hobi neu Diddordeb Newydd gyda Chyrsiau'r Fro
Darganfyddwch Sgil, Hobi neu Diddordeb Newydd gyda Chyrsiau'r Fro
21 Medi 2026
Fel rhan o'n hymrwymiad i gefnogi lles staff a datblygiad personol, mae Cyrsiau Fro yn falch iawn o gynnig gostyngiad unigryw o 20% i weithwyr Cyngor Bro Morgannwg ar bob cwrs.
Os hoffech ddysgu iaith newydd, archwilio eich ochr greadigol, gwella eich lles, neu ddatblygu sgiliau ymarferol, mae ein hystod o gyrsiau 5 wythnos a 10 wythnos yn cynnig rhywbeth i bawb.
Pam Dewis Cyrsiau'r Fro?
Nid yw dysgu yn ymwneud ag ennill cymwysterau yn unig. Gall cymryd rhan mewn dysgu oedolion eich helpu i:

✅ Meithrin hyder a dysgu sgiliau Newydd
✅ Gwella eich lles a'ch cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
✅ Cwrdd â phobl newydd a chysylltu â'ch cymuned leol
✅ Ailddarganfod hen ddiddordebau neu roi cynnig ar rywbeth hollol newydd
Cyrsiau sydd ar gael yn cynnwys:
Ffotograffiaeth
Celfyddydau, Crefftau a Phaentio
Gwneud Gwisg a Clustogwaith
✍️ Ysgrifennu Creadigol
Ieithoedd
Crochenwaith a Serameg
Gostyngiad Staff Unigryw
Gall holl staff Cyngor Bro Morgannwg fwynhau 20% oddi ar ffioedd cwrs wrth gofrestru ar Gwrs y Fro.
Dyfynnwch STAFF20 wrth archebu neu cysylltwch â thîm Cyrsiau'r Fro am ragor o fanylion.