Wellbeing Jigsaw PiecesAwgrymiadau Iechyd a Lles

Digwyddiadau, gweithgareddau a syniadau i helpu i ofalu am eich iechyd a'ch lles. 

Mae ein Hyrwyddwyr Lles wedi cynnig rhestr o weithgareddau y gallech eu gwneud gartref trwy Teams gyda chydweithwyr yn ystod y dydd, yn ystod eich cyfarfod tîm neu hyd yn oed yn ystod amser cinio.

Sesiynau Lles Cymunedol

The Dwelling Place - "Lle mae'n iawn i beidio bod yn iawn"

Ble: Caffi lles yn Llyfrgell a Chanolfan Weithgareddau Dinas Powys, CF64 4QU.  Cynhelir gan Eglwys Bedyddwyr Dinas Powys.  

Pryd: Dydd Iau, 10am - 12pm.

Ebostiwch dpbapchurch@gmail.com am fwy o wybodaeth.

  • Gofod lle rydych yn cael eich adnabod wrth eich enw

  • Lle tebyg i gaffi lle mae croeso i bawb

  • Lle i berthyn a chysylltu

  • Lle i weddi a myfyrdod tawel

  • Gofod lle mae pawb yn gyfartal ac yn cael eu gwerthfawrogi

  • Gweithio mewn partneriaeth gyda’r gymuned leol

  • Coffi gwych!

  • Diddordebau tebyg a gweithgareddau

  • Gallwch ymuno yn y gweithgareddau neu ddod draw i ymlacio - dim pwysau!

  • Dewch draw i ymlacio a chael sgwrs

 

Lles yn eich Llyfrgell Leol

Lles yn eich Llyfrgell Leol

Prosbectws Haf Coleg Lles ac Adferiad Caerdydd a'r Fro

Mae Coleg Lles ac Adferiad Caerdydd a'r Fro yn darparu ystod o gyrsiau am ddim ar ystod o bynciau iechyd meddwl a lles, ar gyfer y rhai sydd â phrofiad byw o heriau iechyd meddwl, defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a staff. Gweler prosbectws tymor yr haf llawn isod.

Prosbectws — Tymor yr Haf 2025

Garddio

Nid yn unig y mae gerddi'n wych i'r amgylchedd ac i fywyd gwyllt, maent hefyd yn dda i'n hiechyd a'n lles.

Dysgwch sut y gall garddio helpu i wella eich iechyd a'ch lles ar wefan RHS:

RHS.org.uk - - Pam mae garddio’n gwneud i ni deimlo’n wellr

Cerdded a Chlonc 

Os ydych chi’n gallu gwneud hynny, gallech drefnu taith gerdded a chlonc amser cinio (gan gadw pellter cymdeithasol) gyda chydweithiwr, ffrindiau neu deulu er mwyn mwynhau bach o amser yn yr awyr agored. 

Cerdded a Chlonc   Teithiau Cerdded Llwybr Arfordir Cymru   Teithiau Cerdded sy'n Dda i Gŵn    Taith Gerdded Cerddwyr Penarth   Teithiau Cerdded Menywod y Barri a Phenarth

Pobi

Mae astudiaethau'n dangos bod pobi'n gwella hwyliau, bod ganddo lawer o rinweddau therapiwtig ac y gall helpu i leddfu straen. Ddim yn siŵr beth i'w bobi? Dyma rysáit syml ar gyfer cwcis â darnau siocled:

 


Gallwch hefyd bobi’n rhan o her ‘Bake for Mental Health’ Rethink.org:

Her ‘Bake for Mental Health’