Rhwydweithiau Staff

Mae ein gwaith ym maes cydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth yn mynd o nerth i nerth, gyda sefydlu ein rwydweithiau:

GLAM logoGLAM

Rhwydwaith staff o gydweithwyr a chynghreiriaid LHDT+ yw GLAM sy'n: 

  • gweithio i gael effaith gadarnhaol ar gydweithwyr LHDTCRh+ yn y gweithle

  • codi ymwybyddiaeth a gwelededd cyffredinol o'i waith

  • sy’n darparu amgylchedd cymdeithasol a chefnogol

Mae’r rhwydwaith yn cwrdd bob mis i gynnig cymorth, cyfle i drafod problemau sy’n effeithio ar bobl LHDT+ ac adnabod ffyrdd o godi ymwybyddiaeth o faterion LHDTCRh+.

Diverse Group LogoRhwydwaith Staff Amrywiol

Mae’r Rhwydwaith Staff Amrywiol yn gam cadarnhaol i'n sefydliad o ran hyrwyddo gweithle cynhwysol sy'n dathlu ei gymuned a'i weithlu amrywiol.

Nod y rhwydwaith yw: 

  • Cael effaith gadarnhaol ar gydweithwyr o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y gweithle

  • Codi ymwybyddiaeth gyffredinol o'i waith, a’i wneud yn weladwy

  • Creu amgylchedd cymdeithasol a chefnogol

Mae sefydlu'r rhwydwaith yn gam tuag at ddechrau'r sgwrs am gydraddoldeb hiliol yn y Cyngor mewn ffordd adeiladol ac agored a dangos y gall sgyrsiau anghyfforddus arwain at newid gwirioneddol.

ABL LogoABL

Abl yw'r rhwydwaith staff i bobl ag anableddau. Mae Abl yn cydnabod y gall anabledd olygu gwahanol bethau i wahanol bobl, felly bydd yn cynnwys ac nid yn eithrio, gan eich cefnogi ym mha bynnag ffordd rydych yn disgrifio eich anabledd.

Mae Abl yn anelu at: 

  • Gynnig cefnogaeth a gwybodaeth i staff ag anableddau, yn ogystal â rhoi arweiniad i reolwyr a chynghreiriaid

  • Codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o wahanol anableddau a chyflyrau iechyd er mwyn helpu i wella profiadau a pherthnasoedd

  • Llunio a dylanwadu ar bolisïau a gwasanaethau drwy fod yn grŵp cynrychioliadol ar gyfer ymgysylltu ac ymgynghori

  • Hybu a chefnogi staff ag anableddau yn y gweithle i sbarduno deilliannau gwell a hyrwyddo llais staff ag anableddau o fewn y Cyngor

Bydd Abl yn gweithio gyda'r rhwydweithiau staff eraill i hyrwyddo cynhwysiant, hygyrchedd, ymwybyddiaeth a derbyniad ledled Bro Morgannwg.