Mae Bwni’r Pasg wedi bod ar ymweliad â’r Fro yr wythnos hon

Mae Colin a Wendy Smith wedi mynd ag Wyau Pasg i'r Timau Parciau, Gwastraff a Glanhau

Dydd Iau 9 Ebrill 2020

Ddydd Gwener diwethaf, penderfynodd Colin a Wendy Smith fynd â phecynnau cinio i'r timau gwastraff ac ailgylchu cyn iddynt ddechrau ar eu shifft i ddiolch iddynt am eu gwaith caled parhaus yn ystod y cyfnod digynsail hwn. 
 
Yna, derbyniodd y timau negeseuon diolch a darluniau gan drigolion pan gasglon nhw eu gwastraff a'u hailgylchu.


 Colin Smith aka Easter BunnyYr wythnos hon, maen nhw wedi mynd â rholiau brecwast unwaith eto i'r timau yn depo Court Road cyn iddynt ddechrau eu shifftiau.

Gan ei bod yn benwythnos gŵyl banc y Pasg ac y bydd y timau'n gweithio ar ddydd Gwener y Groglith a dydd Llun y Pasg, aeth Colin a Wendy hefyd ag wyau Pasg iddyn nhw ar ran Tîm y Gwasanaethau Cymdogaeth a Rheoli Trafnidiaeth.

Colin Smith yw Rheolwr Gweithredol y Gwasanaethau Cymdogaeth, sy'n gyfrifol am barciau, glanhau a gwastraff.

Wrth drafod ymdrechion Colin a Wendy, dywedodd Rob Thomas, y Rheolwr Gyfarwyddwr:

"Mae hon yn weithred ragorol ac mae'n wych gweld pawb yn cyd-dynnu yn ystod cyfnod anodd.  Dylem i gyd fod yn falch iawn o'n staff rheng flaen wrth inni barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol yn ystod yr argyfwng hwn. Da iawn bawb!”